Ailgylchu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
archaeoleg
Llinell 11:
== Hanes ==
=== Ailgylchu cynnar ===
Mae ailgylchu wedi bod yn weithgaredd cyffredin am ran helaeth o hanes dynoliaeth, gyda chofnodion yn cyfeirio ato cyn belled yn ôl a [[Plato]] yn [[400 CC]]. Yn ysod cyfnodau pan oedd deunyddiau'n brin, mae astudiaethau archeolegolarchaeolegol o domenni gwastraff hynafol yn dangos llawer llai o wastraff na ddisgwylid (megis lludw, offer wedi torri a chrochenwaith), gan gynnig y bu llawer iawn yn cael ei ailgylchu gan nad oedd deunyddiau crai newydd yn gyffredin.<ref name="guide">{{dyf llyfr | cyhoeddwr=Black Dog Publishing| blwyddyn=2006| lleoliad=Llundain| isbn=1904772366| teitl=Recycle : a source book}}</ref>
 
Yn y cyfnod [[cyn-ddiwydianol]], mae tystiolaeth yn Ewrop i [[efydd]] a metelau eraill [[sgrap]] gael eu casglu a'u toddi ar gyfer eu aildefnyddio yn ddi-ddiwedd.<ref name="economisttruth">{{dyf gwe| teitl=The truth about recycling| dyddiad=7 Mehefin 2007| url=http://www.economist.com/opinion/displaystory.cfm?story_id=9249262| cyhoeddwr=The Economist}}</ref> Ym Mhrydain, casglwyd llwch a lludo o danau pren a glo gan ddynion lludw a cafodd ei "lawrgylchu" fel deunydd ai ddefnyddwyd i greu briciau. Y prif ysgogiad ar gyfer y math hyn o ailgylchu oedd y fantais economaidd o gael gafael ar ddeunydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na thalu am ddeunydd crai newydd, yn ogystal a'r ffaith na fu casgliadau gwastraff ledled yr ardaloedd poblogedig.<ref name="guide"/> Ym 1813, datblygodd [[Benjamin Law]] broses o droi carpiau yn "frethyn eilban" a "gwlan mungo", yn [[Batley]], [[Swydd Efrog]]. Roedd y defnydd hwn yn cyfuno ffibrau wedi eu ailgylchu gyda [[gwlan]] newydd. Parhaodd diwydiadnt brethyn eilban [[Gorllewin Efrog]] mewn trefi megis Batley a [[Dewsbury]], o'r [[19fed ganrif]] gyntaf hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]].