Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Moel Fenlli"

Ychwanegwyd 92 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
ffynhonnell
(maint ayb)
(ffynhonnell)
[[Bryngaer]] o [[Oes yr Haearn]] 511 metr ym [[Bryniau Clwyd|Mryniau Clwyd]] yw '''Moel Fenlli''' (weithiau '''Foel Fenlli''' ar rai mapiau). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng [[Rhuthun]] a [[Llanferres]] uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol [[Dyffryn Clwyd]].Cyfeirnod OS: SJ164601.
 
Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/96522/manylion/FOEL+FENLLI+HILLFORT/ Coflein]</ref> sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir [[carnedd]] o [[Oes yr Efydd]].
 
Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r bedwaredd ganrif OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r [[Rhufeiniaid]] yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, [[haearn]], saethau [[callestr]] a [[gwydr]] pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]], yn dyddio o'r cyfnod [[307]]-[[360]] OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer. <ref>Gweler gwefan siroedd cyfagos [http://www.heatherandhillforts.co.uk/index.php?]</ref>