Coginio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Cywirio treiglad
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 2:
'''Coginio''' yw'r broses o baratoi bwyd drwy osod [[gwres]], dewis, mesur a chyfuno amrys o gynhwysion mewn modd trefnus er mwyn cynhyrchu bwyd diogel a bwytadwy. Mae'r broses yn cynnwys amryw helaeth o ddulliau, offer a chyfuniadau o gynhwysion i newid [[blas]], golwg, ansawdd neu [[treulio|dreuliadedd]] bwyd. Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar y canlyniad yn cynnwys amrywiaethau yn y cynhwysion, amodau'r awyrgylch, [[offer]], a'r person gallus, sef y [[cogydd]], sy'n gwneud y coginio.
 
Mae amrywiaeth eang coginio yn fyd-eang yn adlewyrchu'r amrywiaethau mewn diwylliant, amaethyddiaeth, esthetig, economi, cymdeithas a crefyddchrefydd ar draws y byd.
 
Mae gosod gwres ar fwyd fel arfer, ond nid bob tro, yn ei newid yn [[cemeg|gemegol]], gan effeithio ar y blas, golwg, ansawdd a'i werth [[maethiad|maeth]]. Mae dulliau o goginio sy'n cynnwys berwi gyda [[hylif]] mewn [[llestr]] wedi cael ei ymarfer ers y 10fed mileniwm CC, yn dilyn dyfodiad [[crochenwaith]].