Moeseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Moeseg ddisgrifiadol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 54:
=== Gwleidyddiaeth a'r gyfraith ===
Yn y [[cyfiawnder|system gyfiawnder]], mae dadleuon dros bwrpas ac amcanion [[cosb]] yn rhemp. Ataliaeth yw'r nod yn ôl y llesyddwyr, sy'n defnyddio troseddwyr i rhybuddio eraill rhag troseddu; cymhelliad ychwanegol yw ailsefydlu'r cyn-droseddwr yn y gymuned. O'r safbwynt Kantaidd ad-daledigaeth yw pwrpas y system gosb: dylai'r drwgweithredwr dderbyn cosb haeddiannol am ei drosedd, dedfryd sy'n ei drin fel gweithredydd moesol yn hytrach na modd a gyfiawnheir gan y diben. Dadleua eraill o blaid adfer [[penyd]] i ystyr [[penydeg]], a chael y drwgweithredwr i edifaru am ei drosedd yn ogystal â'i ailsefydlu er lles ei hun a'r gymuned.
 
== Moeseg ddisgrifiadol ==
{{prif|Moeseg ddisgrifiadol}}
Gwyddor [[ymchwil empiraidd|empiraidd]] sy'n astudio ac yn cymharu credoau ac arferion moesol o wahanol ddiwylliannau, gwledydd, ac oesoedd yw moeseg ddisgrifiadol neu foeseg gymharol. Cyferbynnir moeseg ddisgrifiadol â moeseg normadol, ac ystyrir y gangen hon o foeseg yn un o [[gwyddorau cymdeithas|wyddorau pur cymdeithas]], megis [[anthropoleg]] a [[cymdeithaseg|chymdeithaseg]], yn hytrach na ffurf ar athroniaeth foesol, gan ei bod yn ymdrin â ffeithiau yn hytrach na [[dyfarniad gwerth|dyfarniadau gwerth]].
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Darllen pellach ==
* Ted Honderich (gol.), ''The Oxford Companion to Philosophy'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995)