Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Atmosffer"

Ychwanegwyd 1,138 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
Tagiau: 2017 source edit
== Gwasgedd atmosfferig ==
Gwasgedd atmosfferig yw'r [[grym]] ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm [[màs]] y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 [[Pascal (uned)|Pa]] (760 [[Torr]] sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).
 
== Datblygiad yr Atmosffer ==
Pan ffurfiodd [[y Ddaear]] am y tro cyntaf 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl roedd yr [[atmosffer]] wedi gwneud yn bennaf o heliwm (50%) a hydrogen (50%).
Roedd gweithgaredd folcanig dwys am y biliwn blwyddyn nesaf yn rhyddhau carbon deuocsid, amonia, ager (anwedd dwr), methan, carbon monocsid, asid hydroclorig yn ogystal â nwyon sylffwr gwahanol.
Dros amser cyddwysodd y dŵr i ffurfio cefnforoedd lle datblygodd bacteria ffotosynthetig.
Gwelodd leihad yn y carbon deuocsid a chynyddiad yn yr ocsigen.
Roedd lleihad yn amonia'r aer gan ei fod yn adweithio a'r ocsigen i greu nitrogen ac anwedd dwr.
Roedd lleihad yn y methan gan fod yn adweithio a'r ocsigen i ryddhau ocsigen ac anwedd dwr.
Dros amser hir iawn cafodd y carbon deuocsid ei gloi o fewn creigiau gwaddodol oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (calchfaen a sialc) drwy broses o'r enw ffosileiddio. Hefyd roedd carbon deuocsid yn hydoddi yn y cefnforoedd.
Arosodd yr atmosffer yn weddol sefydlog am amser hir nes i weithgaredd dynol gynyddu cyfansoddiad carbon deuocsid o 0.3% a 0.4% drwy hylosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.
 
 
 
==Cyfeiriadau==
Defnyddiwr anhysbys