Fflworideiddio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Bronant (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Bronant (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yn dibynnu ar eich lleoliad o fewn y [[Deyrnas Unedig]], mae yna symiau amrywiol o ïonau [[fflworid]] yn bodoli'n naturiol yn y [[dŵr]]. Mae ionau fflworid yn cael ei ychwanegu at y cyflenwad dŵr yn naturiol wrth i ddŵr o afonydd, llynnoedd a gorsafoedd lifo dros greigiau a phridd yn cynnwys yr ïonau hyn.
 
Mantais o gael ïonau fflworid mewn dŵr yfed yw ei fod yn helpu i atal [[pydredd dannedd]], a dyna pam mae'n aml iawn yn cael ei ddarganfod mewn cynnyrch past dannedd o wahanol gwmnïoedd. Yn y dannedd mae'r fflworid yn cael ei amsugno yn yr [[enamel]] ac yn helpu i gryfhau a newid eu lliw.
 
Mater dadleuol yw fflworideiddio gan fod rhai cynghorau a llywodraethau yn dewis i ychwanegu fflworid at ddŵr yfed mewn proses o’r enw fflworideiddio. Dechreuodd hyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif pan roedd cysylltiad amlwg efo lefelau pydredd dannedd a lefelau fflworid mewn dŵr. Ond ar y llaw arall, mae rhai yn dadlau fod gormodedd o dŵr wedi fflworideiddio yn gallu achosi at ganserau'r stumog, esgyrn gwan, ag anffrwythlondeb mewn merched. Mae rhai hefyd yn credu ei fod yn [['feddyginiaeth dorfol']] ac na ddylid gorfodi neb i'w yfed. Ffactor arall yn erbyn fflworideiddio dŵr yw bod crynodiad uchel ohono yn gallu achosi niwed i'r dannedd ar ffurf o ddiliwio. Mae'r broblem yn gallu effeithio ar iechyd babanod gan fod ei systemau, yn enwedig y dannedd, heb ddatblygu'n llawn.
 
[[Categori:Cemeg]]