Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Atmosffer"

Ychwanegwyd 16 beit ,  blwyddyn yn ôl
Tagiau: 2017 source edit
Tagiau: 2017 source edit
== Datblygiad yr Atmosffer ==
Pan ffurfiodd [[y Ddaear]] am y tro cyntaf 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl roedd yr atmosffer wedi gwneud yn bennaf o heliwm (50%) a hydrogen (50%).
Roedd gweithgaredd folcanig dwys am y biliwn blwyddyn nesaf yn rhyddhau [[carbon deuocsid]], [[amonia]], ager (anwedd dwr), [[methan]], [[carbon monocsid]], asid hydroclorig yn ogystal â nwyon sylffwr gwahanol.
Dros amser cyddwysodd y dŵr i ffurfio cefnforoedd lle datblygodd bacteria ffotosynthetig.
Gwelodd leihad yn y [[carbon deuocsid]] a chynyddiad yn yr [[ocsigen]].
Roedd lleihad yn amonia'r aer gan ei fod yn adweithio a'r ocsigen i greu [[nitrogen]] ac anwedd dwr.
Roedd lleihad yn y [[methan]] gan fod yn adweithio a'r ocsigen i ryddhau ocsigen ac anwedd dwr.
Dros amser hir iawn cafodd y [[carbon deuocsid]] ei gloi o fewn creigiau gwaddodol oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol ([[calchfaen]] a sialc) drwy broses o'r enw ffosileiddio. Hefyd roedd [[carbon deuocsid]] yn hydoddi yn y cefnforoedd.
Arosodd yr atmosffer yn weddol sefydlog am amser hir nes i weithgaredd dynol gynyddu cyfansoddiad [[carbon deuocsid]] o 0.3% a 0.4% drwy [[hylosgi]] tanwyddau ffosil fel [[glo]], [[olew]] a [[nwy]].