Wymore, Nebraska: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen wikidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Cafodd Wymore ei mapio a'i rhannu'n blotiau yn 1881 fel tref rheilffordd, ar dir a roddwyd gan Sam Wymore.<ref>{{Cite web|url=http://www.casde.unl.edu/history/counties/gage/wymore/|title=Wymore, Gage County|publisher=University of Nebraska|website=Center for Advanced Land Management Information Technologies|access-date=9 August 2014}}</ref> Daeth Wymore gartref i genedlaethau o fewnfudwyr o [[Cymru|Gymru]], a dyma'r Cymry hyn yn sefydlu addoldy lle roeddynt yn addoli'n [[Cymraeg|Gymraeg]] a mynwent, yn ogystal â chynnal traddodiadau Cymreig megis barddoni, dawnsio, a chanu.
 
Yn 2000, sefydlwyd Prosiect Treftadaeth Cymru Wymore er mwyn cynnal etifeddiaeth yr ymsefydlwyr cynnar hyn. Ers hynny mae wedi ehangu i gynnwys [[Canolfan Dreftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr|amgueddfa]], archif o gofnodion achau, ac un o'r llyfrgelloedd Cymraeg mwyaf yng Ngogledd America.
 
Mae Wymore yn gartref i'r Southern Raiders, ysgol dosbarth C sy'n gwasanaethu myfyrwyr o Barneston, Holmesville, Blue Springs, Wymore, a Liberty. Mae'r ysgol wedi ennill 2 bencampwriaeth taleithiol, y ddau mewn <nowiki>[[reslo]]</nowiki> (1974 a 1980).
 
Wymore, Nebraska hefyd yw man claddu'r awdur ac [[Anthropoleg|anthropolegydd]] R. Clark Mallam, y mae llyfr ganddo, ''Indian Creek Memories; Mae Naws am Le'' wedi'i selio yn y dref a'i chyffiniau.