Ymerodraeth Mali: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
Bu farw Ibn Khaldun yn 1406 ac ar ôl ei farwoldaeth ni chafwyd cofnod parhaus o'r digwyddiadau yn Ymerodraeth Mali wedyn. Gwyddys o [[Tarikh al-Sudan]] mai gwlad o gryn faint oedd Mali yn y 15fed ganrif. Cadarnhaodd y fforiwr o [[Gweriniaeth Fenis|Fenis]] [[Alvise Cadamosto]] a masnachwyr o [[Teyrnas Portiwgal|Bortiwgal]] fod pobloedd [[Afon Gambia]] yn dal dan law ''mansa'' Mali.<ref name=":2">{{Cite book|url=https://books.google.co.uk/books?id=zf6xAAAAQBAJ&pg=PA203|title=Historical Dictionary of Mali|last=Imperato|first=Pascal James|last2=Imperato|first2=Gavin H.|date=2008-04-25|publisher=Scarecrow Press|year=|isbn=9780810864023|location=|pages=203|language=en}}</ref> Ymwelodd Leo Africanus â'r ardal ar ddechrau'r 16eg ganrif ac mae ei ddisgrifiadau o'r tiriogaethau yn dangos bod y deyrnas yn un sylweddol o hyd. Er hynny, o 1507 ymlaen, roedd gwledydd cyfagos megis Diara, Fulo Fawr ac Ymerodraeth y Songhay yn dechrau erydu tiroedd pell Mali. Yn 1542, goresgynnodd pobl y Songhay y brifddinas Niani ond ni lwyddasant i oresgyn yr ymerodraeth gyfan. Yn ystod y 17eg ganrif, roedd Ymerodraeth Mali yn wynebu cyrchoedd gan Ymerodraeth Bamana. Wedi i [[Mama Maghan|Mansa Mama Maghan]] fethu â goresgyn Bamana, anrheithiodd Bamana Nianai a'i llosgi ac fe chwalodd Ymerodraeth Mali yn gyflym iawn wedi hyn. Cymerodd unbenaethau annibynnol le'r ymerodraeth a chilio gwnaeth y Keita i dref [[Kangaba]] lle yr oeddent yn parhau fel unbeniaid taleithiol.<ref>{{Cite book|url=https://books.google.co.uk/books?id=zf6xAAAAQBAJ&pg=PA204|title=Historical Dictionary of Mali|last=Imperato|first=Pascal James|last2=Imperato|first2=Gavin H.|date=2008-04-25|publisher=Scarecrow Press|year=|isbn=9780810864023|location=|pages=204|language=en}}</ref>