Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ymerodraeth Mali"

Ychwanegwyd 64 beit ,  11 mis yn ôl
delwedd: cyfieithwyd o'r Gatalwneg ar Comin
(delwedd: cyfieithwyd o'r Gatalwneg ar Comin)
[[Delwedd:Mapa mali cy.svg|bawd|370px|Map o Ymerodraeth Mali]]
 
Ymerodraeth yng [[Gorllewin Affrica|Ngorllewin Affrica]] o tua 1235 – 1400 oedd '''Ymerodraeth Mali''' ([[Manding]]: ''Nyeni''<ref>Ki-Zerbo, Joseph: ''UNESCO General History of Africa, Vol. IV, Abridged Edition: Africa from the Twelfth to the Sixteenth Century'', p. 57. University of California Press, 1997.</ref> neu ''Niani''; hefyd '''Manden Kurufaba''' yn hanesyddol<ref name="Piga, Adriana page 265">Piga, Adriana: ''Islam et villes en Afriqa au sud du Sahara: Entre soufisme et fondamentalisme'', p. 265. KARTHALA Editions, 2003.</ref>). Sefydlwyd yr ymerodraeth gan [[Sundiata Keita]] a daeth yn adnabyddus am gyfoeth ei rheolwyr, yn enwedig [[Musa Keita]]. [[Ieithoedd Manding]] a oedd yn cael eu siarad trwy'r ymedrodraeth. Hi oedd yr ymerodraeth fwyaf yng Ngorllewin Affrica a chafodd ddylanwad enfawr ar ddiwylliant y rhanbarth drwy ledaenu ei hiaith, ei chyfreithiau a'i harferion.<ref>{{cite web|title=The Empire of Mali, In Our Time – BBC Radio 4|url=http://www.bbc.co.uk/programmes/b06kgggv|website=BBC|accessdate=2015-10-29}}</ref> Daw'r mwyafrif o'r wybodaeth sydd gennym am Ymerodraeth Mali gan yr hanesydd [[Ibn Khaldun]] [[Arabiaid|Arabaidd]] o [[Gogledd Affrica|Ogledd Affrica]] yn y 14eg ganfrif a chan y teithiwyr o [[Moroco|Foroco]], [[Ibn Battuta]] yn y 14eg ganrif a [[Leo Africanus]] yn y 16eg ganrif. Y brif ffynhonell arall o wybodaeth yw [[traddodiad llafar]] y chwedleuwyr [[Mandinka]], o'r enw [[Griot|griotiaid]].<ref name=":1">{{Cite book|url=https://books.google.co.uk/books?id=zf6xAAAAQBAJ&pg=PA201|title=Historical Dictionary of Mali|last=Imperato|first=Pascal James|last2=Imperato|first2=Gavin H.|date=2008-04-25|publisher=Scarecrow Press|year=|isbn=9780810864023|location=|pages=201|language=en}}</ref>