Y Byd Mwslemaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae'r termau '''y Byd Mwslemaidd''' a'r '''Byd Islamaidd''' yn cyfeirio at y gymuned fyd-eang o ddilynwyr grefydd Islam. Mae tua 1.4—1.6 biliwn o Fwslemiaid...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:48, 6 Rhagfyr 2006

Mae'r termau y Byd Mwslemaidd a'r Byd Islamaidd yn cyfeirio at y gymuned fyd-eang o ddilynwyr grefydd Islam. Mae tua 1.4—1.6 biliwn o Fwslemiaid (rhai sy'n credu yn Islam) yn y byd. Ehangodd y Byd Mwslemaidd dros y blynyddoedd wrth i Islam lledaenu o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica i weddill yr Affrig, Canolbarth Asia, isgyfandir India ac ynysfor Indonesia. O ganlyniad i allfudo, ceir cymunedau sylweddol o Fwslemiaid yn ninasoedd y Byd Gorllewinol, ond ni ystyrir rhain yn rhan o Fyd Islam.[1]

Byd Islam yng ngwleidyddiaeth gyfoes

Yn ystod yr ugeinfed ganrif, cynyddodd bresenoldeb y Byd Gorllewinol yn, a'i ddylanwad ar, y Byd Mwslemaidd. Mae union effeithiau'r Gorllewin yn dadleuol, ond dywedir bod globaleiddio, rhyfeloedd, defnyddio olew,[2] statws gwledydd Islamaidd fel gwledydd y Trydydd Byd,[2] a ffurfiad Gwladwriaeth Israel[1] i gyd wedi cael effeithiau negyddol ar y Byd Mwslemaidd. Mae'r digwyddiadau yma wedi cyfrannu'n sylweddol at derfysgaeth gan Fwslemiaid ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain (er bod agweddau eraill: gweler ffwndamentaliaeth Islamaidd a terfysgaeth eithafol Islamaidd). Hefyd yn y ddwy ganrif hyn, bu allfudiad o Fwslemiaid i wledydd y Gorllewin, sydd wedi cael effeithiau amrywiol ar y berthynas rhyngddynt a Gorllewinwyr.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005 – tudalen "Islam"
  2. 2.0 2.1 "'Seren' Islam yng Nghaerdydd", BBC, 26 Ebrill, 2004.