Llenyddiaeth Lydaweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 11:
 
=== Adfywiad y 19g ===
Ffynnai diddordeb yn yr iaith Lydaweg yn nechrau'r 19g, yn bennaf mewn ymateb i'r ymdrechion gan lywodraeth [[Ffrainc]] i ddifa ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y wlad. Cyfieithwyd [[y Beibl]] i'r Llydaweg yn 1827 gan [[Jean François Legonidec]]. Carreg filltir bwysig yn adfywiad yr iaith lenyddol oedd hyn, er na chafodd bathiadau Legonidec a'i ymdrech i buro'r iaith rhag benthyceiriau [[Ffrangeg]] fawr o ddylanwad. Yn 1839 cyhoeddwyd y casgliad ''Barzaz Breiz'' ("Barddoniaeth Llydaw") gan [[Kervarker|Hersart de Villemarqué]]. Fe honnai taw detholiad o ganeuon hen iawn y werin Lydewig ydoedd, ond yn wir fe adolygai sawl un ac roedd nifer fawr ohonynt o darddiad diweddar. Serch hynny, sbardunwyd nifer o awduron eraill megis [[Anatole Le Braz]] i gasglu, cofnodi a chyhoeddi llên lafar y Llydawyr: rhigymau, straeon gwerin, diarhebion, damhegion, a dychmygion ar eiriau. Un o feirdd mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd [[Prosper Proux]], awdur ''Canaouennou gret gant eur C’hernewod'' ("Cerddi gan Ddyn o Gernyw"; 1838).
 
=== Yr 20g ===