Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dylan Thomas"

Ychwanegwyd 124 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Efrog Newydd a'i farwolaeth: Golygu cyffredinol (manion) using AWB)
| gwefan = http://www.dylanthomas.com/
}}
Roedd '''Dylan Marlais Thomas''' ([[27 Hydref]] [[1914]] – [[9 Tachwedd]] [[1953]]) yn [[bardd|fardd]] poblogaidd yn ysgrifennu yn [[Saesneg]],<ref Name="Encyclopædia Britannica">[http://www.britannica.com/eb/article-9072164/Dylan-Thomas "Dylan Thomas"], ''[[Encyclopædia Britannica]]'' . Adalwyd ar 11 Ionawr 2008.</ref><ref>{{dyf gwe|url=http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/dylan_thomas.shtml |teitl=Dylan Thomas |cyhoeddwr=BBC Cymru |dyddiadcyrchiad=2014-05-11 }}</ref> ac yn dod o [[Abertawe]]. Cafodd ei eni a'i fagu yn rhif 5, Cwmdonkin Drive yn ardal yr [[Uplands]]. Er ei fod wedi treulio ei holl blentyndod yng Nghymru oherwydd agwedd gwrth-Gymraeg ei dad ni ddysgodd yr iaith ond fe wyddir ei fod yn hoff iawn o'i wlad.
 
Mae'n enwog am fod yn fardd ddeiliadon ac am ei ddatganiadau hynod o'i weithiau. Mae hefyd yn enwog am or-yfed. Honnodd, "''An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do''.". Priododd Caitlin a chawsant dri o blant. Ym 1995 agorwyd [[Canolfan Dylan Thomas]] yn ardal y [[Marina Abertawe|Marina]] yn Abertawe.
 
== Ei flynyddoedd cynnar ==
[[Delwedd:Maritime Quarter, Swansea - geograph.org.uk - 220934.jpg|bawd|chwith|upright|200px|Cerflun o Dylan Thomas yn Abertawe]]
Ganwyd Dylan Thomas ym 5 Cwmdonkin Drive<ref>[http://www.5cwmdonkindrive.com 5 Cwmdonkin Drive]</ref>, yn ardal yr [[Uplands]] o [[Abertawe]], [[Cymru]] ar [[27 Hydref]] [[1914]]. Roedd yr Uplands yn un o ardaloedd mwyaf llewyrchus y ddinas a gadwodd Thomas i ffwrdd o ardaloedd diwydiannol y ddinas. Roedd ei dad, David John Thomas, yn dysgu llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol ramadeg leol. Roedd ei fam, Florence Hannah Thomas (gynt Williams), yn wniadwraig a anwyd yn Abertawe. Roedd gan Dylan chwaer, Nancy, a oedd wyth mlynedd yn hŷn nag ef. Magwyd y plant i siarad Saesneg yn unig, er bod eu rhieni yn medru'r [[Cymraeg|Gymraeg]].
 
Ynganer ei enw fel '"Dyl-an'" yn y Gymraeg ac ar ddechrau ei yrfa cafodd ei enw ei ynganu yn y ffordd Gymreig. Fodd bynnag, hoffai Dylan yr ynganiad Seisnig '"Dill-an'".<ref Name="Reckless1">[http://www.newyorker.com/archive/2004/07/05/040705crbo_books "Reckless Endangerment: The making and unmaking of Dylan Thomas." Erthygl ''New Yorker'' gan Adam Kirsch. t1 5 Gorffennaf 2004]. Adalwyd ar 2010-09-11</ref> Roedd enw canol Dylan yn deyrnged i'w hen ewythr, y Gweinidog Undodaidd William Thomas a chanddo'r enw barddol [[Gwilym Marles]].
 
Treuliodd y mwyafrif o'i blentyndod yn Abertawe, gyda theithiau rheolaidd yn yr haf i ymweld â'i fodryb Ann Jones ar ochr ei fam pan oeddent yn denantiaid ar fferm laeth Fern Hill, [[Llangain]], Sir Gaerfyrddin<ref>''Dylan Remembered 1914-34 vol 1'' gan D N Thomas, Seren 2003</ref> (sy'n adeilad rhestredig <ref>{{dyf gwe |teitl=British Listed Buildings, Fernhill, Llangain |url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-9718-fern-hill-llangynog |cyhoeddwr=www.britishlistedbuildings.co.uk |dyddiadcyrchiad=2014-05-11}}</ref>) a pherthnasau eraill yng nghyffiniau [[Llansteffan]].<ref>{{dyf gwe |teitl=Dylan Thomas |url=http://www.llansteffan.com/dylan-thomas/ |cyhoeddwr=[http://www.llansteffan.com] |dyddiadcyrchiad=2014-05-11}}</ref> Cyferbynnai'r teithiau gwledig hyn gyda'i fywyd yn y dref, gan ysbrydoli llawer o'i weithiau, yn benodol ei straeon byrion, traethodau radio a'i gerdd [[Fern Hill]]. Roedd Thomas yn blentyn a ddioddefodd lawer o salwch ac fe'i ystyriwyd yn rhy wanllyd i frwydro yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Gwasanaethodd y rhyfel drwy ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llywodraeth. Dioddefodd o [[llid y bronci|lid y bronci]] ac [[asma]] er ei fod yn chwarae ar ei salwch o dro i dro.
 
Dechreuodd Thomas addysg ffurfiol yn Ysgol Fonheddig Mrs. Hole, ysgol breifat a leolwyd ychydig strydoedd i ffwrdd ar Mirador Crescent, a disgrifiodd ei brofiadau yno yn ''Quite Early One Morning''.<ref>Quite Early One Morning. New Directions Publishing, 1968.</ref>
Ym mis Hydref 1925, mynychodd Thomas ysgol i fechgyn sef [[Ysgol yr Esgob Gore|Ysgol Ramadeg Abertawe]], yn ardal [[Mount Pleasant, Abertawe|Mount Pleasant]] y ddinas. Cyhoeddwyd cerdd gyntaf Thomas yng nghylchgrawn yr ysgol ac yn ddiweddarach daeth yn olygydd y cylchgrawn hwn. Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, cyfarfu a Daniel Jones, a fyddai'n gyfansoddwr pan yn ddyn, a bu'r ddau'n chwarae gemau o ffug-ddarlledu a datgan barddoniaeth.<ref>Andrew Sinclair, ''Dylan the Bard'', (Constable & Robinson Ltd, 1999) t37</ref> Gadawodd yr ysgol yn 16 er mwyn bod yn ohebydd gyda'r papur newydd lleol sef y ''[[South Wales Evening Post|South Wales Daily Post]]''. Gadawodd y swydd 18 mis yn ddiweddarach ym [[1932]] oherwydd y pwysau. Ymunodd â chymdeithas ddrama amatur yn y [[Mwmbwls]], ond parhaodd i weithio fel newyddiadurwr annibynnol am rai blynyddoedd.
 
Treuliai Thomas ei ddiwrnodau yn y sinema yn yr Uplands, yn cerdded ar hyd [[Bae Abertawe]] ac yn mynychu tafarndai Abertawe, yn enwedig y rhai yn ardal y Mwmbwls gan gynnwys yr "''Antelope Hotel''" a "''The Mermaid Hotel''". Roedd Thomas hefyd yn gwsmer rheolaidd yng Nghaffi Kardomah ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas. Roedd y caffi yn agos i'r papur newydd y gweithiai iddo ac arferai gymysgu â chyfoedion amrywiol, megis ei ffrind agos [[Vernon Watkins]] a oedd hefyd yn fardd. Adnabyddir y beirdd, cerddorion a'r artistiaid hyn fel y '"[[The Kardomah Gang|''The Kardomah Gang'']]'".
 
Ym [[1932]], aeth Thomas ar y cyntaf o'i amryw deithiau i [[Llundain|Lundain]].
 
Ym mis Chwefror [[1941]], bomiwyd Abertawe gan y [[Luftwaffe]] dros gyfnod o dair noson o '"[[Y Blitz|''blitz'']]'". Roedd y Stryd Fawr a nifer o strydoedd eraill wedi'u dinistrio'n ddifrifol gan gynnwys siopau a '"Chaffi'r Kardomah'". Yn hwyrach, ysgrifennodd Thomas am hyn yn ei ddrama radio ''Return Journey Home'', lle mae'n disgrifio bod y caffi wedi'i "''razed to the snow''". Darlledwyd ''Return Journey Home'' am y tro cyntaf ar y [[15 Gorffennaf|15fed o Orffennaf]] [[1947]], ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r ymgyrch fomio. Cerddai Thomas ar hyd strydoedd chwaledig y ddinas gyda'i ffrind Bert Trick. Pan welodd yr olygfa a oedd ar y ddinas, meddai "''Our Swansea is dead''".<ref>''Dylan Remembered 1935-53 vol 2'' gan D N Thomas, Seren 2004 t92</ref> Yn ddiweddarach, ail-agorwyd '"Caffi'r Kardomah'" ar Stryd Portland, nid nepell o'i safle gwreiddiol.
 
== Ei yrfa ==
Ar drothwy'r [[Ail Ryfel Byd]], rhoddwyd statws C3 i Thomas a olygai y gallai, mewn theori, gael ei alw i wasanaethu ei wlad. Teimlai'n drist wrth weld ei gyfeillion yn ymfyddino gan ei adael ef ar ôl. Parhaodd Thomas i yfed gan frwydro i gynnal ei deulu'n ariannol. Ysgrifennodd at gyfarwyddwr adran ffilmiau'r Weinyddiaeth Wybodaeth yn gofyn am waith ond wedi iddo gael ei wrthod dechreuodd weithio i Strand Films. Cynhyrchai Strand Films ffilmiau ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth a ysgrifennodd Thomas o leiaf bum ffilm ym [[1942]] gyda theitlau megis ''This Is Colour'', ''New Towns For Old'', ''These Are The Men'' ac ''Our Country'' (taith sentimental o amgylch Prydain).<ref name="arts.guardian.co.uk">{{dyf gwe |enw=Andrew |cyfenw=Lycett |teitl=The reluctant propagandist |url=http://arts.guardian.co.uk/theatre/drama/story/0,,2286844,00.html |cyhoeddwr=[[The Guardian]] |dyddiad=2008-06-21 |dyddiadcyrchiad=2008-06-24 | lleoliad=London}}</ref>
 
Roedd cyhoeddi ''Deaths and Entrances'' ym [[1946]] yn drobwynt allweddol yn ei yrfa. Roedd Thomas yn enwog am fod yn siaradwr amryddawn a huawdl, ac yn fwyaf enwog am ddarllen ei gerddi. Llwyddodd ei lais pwerus i ddal sylw cynulleidfaoedd Americanaidd yn ystod y teithiau siarad ar ddechrau'r 1950au. Gwnaeth dros 200 o ddarllediadau ar gyfer y [[BBC]]. Yn aml, ystyrir ''Under Milk Wood'' (''"[[Dan y Wenallt]]''" yn Gymraeg) fel un o'i weithiau enwocaf, drama radio sy'n ymdrin â chymeriadau'r pentref Llareggub, pentref pysgota Cymreig dychmygol. Ceir hiwmor yn enw'r pentref am fod Llareggub yn sillafu 'Bugger All' am yn ôl, sy'n awgrymu nad oedd unrhyw beth i'w wneud yn y pentref. Actiodd [[Richard Burton]] yn y darllediad cyntaf; ymunodd [[Elizabeth Taylor]] ag ef yn y ffilm a ddilynodd.
 
== Ei briodas a'i blant ==
[[Delwedd:AeronwyTorino.jpg|bawd|Aeronwy Thomas; Aeronwy Thomas yn 2006]]
Yng Ngwanwyn [[1936]], cyfarfu Dylan Thomas â dawnswraig o'r enw Caitlin Macnamara. Cyfarfu'r ddau yn nhafarn y ''Wheatsheaf'', yn ardal ''Fitzrovia'' o ''West End Llundain''. Cawsant eu cyflwyno i'w gilydd gan Augustus John, sef cariad Macnamara ar y pryd. Ceir hanesion bod MacNamara wedi parhau ei pherthynas gyda John ar ôl iddi briodi Thomas. Gofynnodd y Thomas meddw iddi ei briodi yn yr unfan a dechreuodd y ddau ganlyn.
 
Ar yr [[11 Gorffennaf|11eg o Orffennaf]] [[1937]], priododd Thomas a MacNamara mewn swyddfa gofrestru yng [[Cernyw|Nghernyw]]. Ym 1938 rhentodd y pâr fwthyn ym mhentref [[Talacharn]] yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Ganwyd eu plentyn cyntaf, mab o'r enw Llewelyn Edouard, ar y [[30 Ionawr|30ain o Ionawr]] [[1939]]. Bu farw ef yn [[2000]]. Cawsant blentyn arall, merch o'r enw [[Aeronwy Thomas|Aeronwy]] ar y [[3 Mawrth|3ydd o Fawrth]] [[1943]]. Ganwyd ail fab iddynt, Colm Garan Hart, ar y [[24 Gorffennaf|24ain o Orffennaf]] [[1949]].
 
== Gor-yfed ==
Roedd Thomas yn hoff o frolio am ei arferion yfed, gan ddweud, "''An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do''.".<ref>{{dyf gwe|url=http://famouspoetsandpoems.com/poets/dylan_thomas/quotes |teitl=Dylan Thomas Quotes |cyhoeddwr=Famouspoetsandpoems.com |dyddiad=2007-05-17 |dyddiadcyrchiad=2009-10-17}}</ref>
 
Roedd Thomas yn hoffi blas cwrw ac er iddo yfed cryn dipyn mae'n bosib fod faint yr oedd yn yfed wedi cael ei or-ddweud. Ar ôl i'r bardd o Albanwr, Ruthven Todd, gyflwyno Thomas i'r White Horse Tavern, daeth y dafarn hon yn un o ffefrynnau'r Cymro. Mewn digwyddiad ar [[3 Tachwedd]] [[1953]], dychwelodd Thomas i'r Chelsea Hotel yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] o'r White Horse Tavern gan ddatgan "''I've had eighteen straight whiskies, I think that is a record.''". <ref>{{dyf gwe |teitl=Did hard-living or medical neglect kill Dylan Thomas? |url=http://www.bbc.co.uk/arts/0/24748894 |cyhoeddwr=bbc.co.uk |dyddiadcyrchiad=2014-05-11 }}</ref> Yn ddiweddarach fodd bynnag, dywedodd perchennog y dafarn, a weinodd ar Thomas bryd hynny, nad oedd Thomas wedi yfed hanner y diodydd yr oedd yn honni iddo wneud.
 
Dyma rai o'r tafarndai lle'r arferai Thomas yfed:
 
*''The Uplands Hotel'' - yn yr [[Uplands]], [[Abertawe]]. (Bellachbellach fe'i gelwir ''The Uplands Tavern'');
*''The Mermaid Hotel'' - yn y [[Mwmbwls]], [[Abertawe]]. (Dinistriwyddinistriwyd gan dân cyn cael ei ail-adeiladu);
*''The Antelope Hotel'' - hefyd yn y Mwmbwls ac mae yno o hyd.;
*''The No Sign Wine Bar'' - yn Stryd y Gwynt, Abertawe. (Unun o dafarndai hynaf Abertawe)
*Y Llew Du - yn y [[Ceinewydd]]. Ceir disgrifiad ohono yn y dafarn hon yn ei gerdd ''New Quay''; <ref>{{dyf gwe|url=http://www.discoverceredigion.co.uk/SiteCollectionDocuments/Dylan%20Thomas%20Trail%20Leaflet.pdf|teitl=Darganfod pobl a llefydd a ysbrydolodd Dylan Thomas|cyhoeddwr=Cyngor Sir Ceredigion|dyddiadcyrchiad=2014-05-11}}</ref>
*''The Woodlawn Tap'' - yn Hyde Park, [[Chicago]], IL. (Caiffcaiff ei adnabod fel Jimmy's hefyd.).
 
Cyn i Thomas adael am Efrog Newydd yn 1953, arhosodd yng Ngwesty'r Bush yn Abertawe. Yn ddiweddarach, newidiwyd enw'r gwesty i The Bush Inn.
Roedd Thomas eisoes yn sal pan gyrhaeddodd Efrog Newydd ar yr 20fed o Hydref. Roedd ef yno er mwyn cymryd rhan yn ''Dan y Wenallt'' yng Nghanolfan Farddoniaeth uchelael y ddinas. Roedd gan Thomas hanes o lewygu a phroblemau gyda'i fynwes ac arferai ddefnyddio anadlwr er mwyn helpu gyda'i anadlu.
 
Cyfarwyddwr y Ganolfan oedd John Brinnin. Ef hefyd oedd trefnwr taith Thomas, gan gymryd canran helaeth o 25% o'r arian a wnaed. Er ei ddyletswydd i ofalu am Thomas, arhosodd Brinnin yn ei gartref ym [[Boston|Moston]] gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb i'w gynorthwyydd uchelgeisiol, Liz Reitell...<ref name="ReferenceA">''Fatal Neglect: Who Killed Dylan Thomas?'' gan D N Thomas, Seren 2008</ref> Cyfarfu Reitell â Thomas ym maes awyr Idlewild a sylweddodd yn gyflym iawn ei fod yn ŵr tost. Serch hynny, roedd Reitell yn benderfynol y byddai'r sioe yn llwyddiant a gweithiodd Thomas drwy pedwar ymarfer a dau berfformiad o'r sioe mewn cyfnod o bump diwrnod yn unig.
 
Yn y diwedd daeth Brinnin i weld yr ymarfer olaf o'r sioe a chafodd sioc o weld pryd a gwedd Thomas. Gwelodd yn syth fod rhywbeth difrifol yn bod arno. Rhybuddiodd Reitell ef hefyd fod Thomas wedi disgyn yn yr ymarfer blaenorol a chred nifer y dylai hyn fod wedi bod yn ddigon o ysgogiad i fynd â Thomas at ddoctor.
Fodd bynnag, roedd Brinnin angen ei siâr ef o enillion Thomas. Roedd Brinnin mewn trafferthion ariannol dwys, yn wynebu torriad yn ei gyflog a'i ddyledion yn cynyddu o'i amgylch. O ganlyniad, anwybyddodd salwch Thomas a dychwelodd i Foston. Galwodd Reitell ei doctor ei hun, Milton Feltenstein, i weld Thomas. Yn ddiweddarach, disgrifiodd Feltenstein fel doctor gwyllt a gredai y gallai chwystrelliad iachau unrhyw salwch. Rhoddodd chwystrelliad iddo a llwyddodd Thomas i weithio drwy'r ddau berfformiad o ''Dan y Wenallt'' ond syrthiodd yn syth ar ddiwedd y sioe.
 
Roedd penblwydd Dylan yn 39 oed ar 27 Hydref. Y noson honno, aeth i barti er ei fwyn ond am nad oedd yn teimlo'n hwylus, dychwelodd i'w westy. Daeth y trobwynt ar 2 Tachwedd pan gynyddodd y llygredd awyr i'r fath raddau yn y ddinas fel ei bod yn beryglus i bobl gyda phroblemau anadlu. Erbyn diwedd y mis, roedd dros ddau gant o drigolion Efrog Newydd wedi marw o achos y smog.
 
Dihunodd Thomas am ganol dydd ar 4 Tachwedd a dywedodd wrth Reitell ei fod yn mogu. Roedd ei lais mor ddwfn a garw fel ei fod yn swnio fel [[Louis Armstrong]] yn ôl un o'i ffrindiau. Roedd gan Thomas haint respiradu difrifol, a ddechreuodd yn ei lwnc ac a ymestynnodd i'w ysgyfaint.
Gall twristiaid ymweld â cherflun ohono yn ardal y marina o'r ddinas, Theatr (Fechan) Dylan Thomas a [[Canolfan Dylan Thomas|Chanolfan Dylan Thomas]]. Bellach, mae Canolfan Dylan Thomas yn ganolfan lenyddol lle cynhelir arddangosfeydd a darlithoedd, ac yno y cynhelir Gwyl Dylan Thomas yn flynyddol. Ceir carreg goffa iddo ym Mharc Cwmdonkin, un o'i hoff lefydd pan yn blentyn ac nepell o'i fan enedigol yn 5 Cwmdonkin Drive. Mae'r carreg goffa mewn gardd caëdig o fewn y parc. Ar y garreg, gwelir y geiriau o linellau olaf y gerdd ''Fern Hill'':
 
"''Oh as I was young and easy in the mercy of his means''
 
''Time held me green and dying''
Though I sang in my chains like the sea.
 
''Though I sang in my chains like the sea''".
Mae sied ysgrifennu Thomas a gostiodd £5 yn Nhalacharn. Costiodd £75 er mwyn adeiladu'r sied ar ochr y clogwyn yn ystod y 1920au, pan gawsai ei ddefnyddio fel garej ar gyfer ei gar Wolseley. Mae'r tŷ cwch, sef cartref Thomas yn Nhalacharn, bellach yn gofeb iddo hefyd.
 
Mae gan nifer o dafarndai Abertawe gysylltiad â'r bardd hefyd. Arferai fynychu un o dafarndai hynaf y ddinas, y No Sign Bar. Sonir am y dafarn yn ei stori, ''The Followers'' ond ers hynny, newidiwyd ei enw i'r "''Wine Vaults''".
 
Yn 2004, sefydlwyd gwobr llenyddol newydd, [[Gwobr Dylan Thomas]], er cof amdano. Caiff ei rhoi i'r llenor cyhoeddedig gorau o dan 30 oed.
===Barddoniaeth===
 
* ''18 Poems'' (1934) [OOP]
* ''25 Poems'' (1936) [OOP]
* ''The Map of Love'' (1939) [OOP]
* ''Twenty-Six Poems'' (1950) [OOP]
* ''In Country Sleep'' (1952) [OOP]
* ''Collected Poems, 1934-19521934–1952'' (1952)
 
===Rhyddiaith===
===Amrywiol===
* ''The Beach of Falesa'' (1964) [OOP]
* ''Dylan Thomas - a Collection of Critical Essays: Charles B. Cox (ed.)'' (1966) [OOP]
* ''Selected Works'' (The Map of Love, Selected Poems and Under Milk Wood) Guild Publishing, Llundain 1982
* ''The Collected Stories of Dylan Thomas'' (1984)
* ''Dylan Thomas: The Complete Screenplays'' (1995)
* ''Fern Hill: An Illustrated edition of the Dylan Thomas poem.'' [1998]
* ''Collected Poems 1934 – 19531934–1953'' (Llundain: Phoenix, 2003)
* ''Selected Poems'' (Llundain: Phoenix, 2001)
 
 
==Llyfryddiaeth==
* K Crockett, ''Mwy na Bardd - Bywyd a Gwaith Dylan Thomas'' (Cyhoeddiadau Barddas, 2014)
 
==Cyfeiriadau==
132

golygiad