Fanny Mendelssohn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cyfansoddwr a aned yn 1805
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth | dateformat = dmy }} Pianydd a chyfansoddwraig o'r...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:31, 3 Gorffennaf 2019

Pianydd a chyfansoddwraig o'r Almaen oedd Fanny Mendelssohn, wedyn Fanny Mendelssohn Bartholdy, ac ar ôl ei phriodas Fanny Hensel (14 Tachwedd 180514 Mai 1847).

Fanny Mendelssohn
Ganwyd14 Tachwedd 1805 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1847 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethConffederasiwn y Rhein Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, pianydd, academydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEaster Sonata, Piano Trio, Q56304591, Das Jahr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLudwig van Beethoven, Johann Sebastian Bach, Felix Mendelssohn Edit this on Wikidata
TadAbraham Mendelssohn Bartholdy Edit this on Wikidata
MamLea Mendelssohn Bartholdy Edit this on Wikidata
PriodWilhelm Hensel Edit this on Wikidata
PlantSebastian Hensel Edit this on Wikidata

Roedd hi'n chwaer hynaf y cyfansoddwr Felix Mendelssohn. Fel plentyn, dangosodd hi ddawn cerddorol aruthrol a dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth. Fodd bynnag, roedd hi wedi'i gyfyngu gan yr agwedd gyffredinol tuag at fenywod yn ystod y cyfnod. Er gwaetha'r canmoliaeth a gafodd gan gerddorion nodedig, roedd ei thad, y bancwr Abraham Mendelssohn, yn oddefgar, yn hytrach na chefnogol, o'i gweithgareddau fel cyfansoddwr. Yn 1820 ysgrifennodd ei thad ati: "Gall y gerddoriaeth ddod yn broffesiwn iddo [sef ei brawd Felix], tra mai addurn yn unig ydyw i ti …"[1]

Cyfansoddodd hi dros 460 darn o gerddoriaeth, y mwyafrif ohonynt yn ganeuon a darnau ar gyfer piano. Ar hyd ei hoes, arhosodd mewn cysylltiad â'i brawd mwyaf amlwg, ac fe wnaethant ymgynghori â'i gilydd ar faterion cerddorol. Cyhoeddwyd rhai o'i chaneuon yn wreiddiol o dan enw ei brawd, ac ymddangosodd nifer fach o dan ei henw ei hun yn ystod ei hoes hefyd.

Yn 1829 priododd Fanny yr arlunydd Wilhelm Hensel a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei hunig blentyn, Sebastian Hensel.

Bu farw o strôc ym Merlin ym Mai 1847, chwe mis cyn i'w brawd Felix farw o'r un achos.

Cyfeiriadau

  1. "Die Musik wird für ihn vielleicht Beruf, während sie für Dich stets nur Zierde …": llythyr o Abraham Mendelssohn i Fanny Mendelssohn, 16 Gorffennaf 1820; Sebastian Hensel, Die Familie Mendelssohn, 1829–1847: Nach Briefen und Tagebüchern (Berlin, 1880), cyf. 1, t. 97.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.