Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Vladimir Mayakovsky"

Ychwanegwyd 4 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(Yn dileu "Mayak_tomb.JPG". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Well-Informed Optimist achos: per c:Commons:Deletion requests/File:Mayak tomb.JPG.)
| gwefan =
}}
Reodd '''Vladimir Vladimirovich Mayakovsky''' ({{lang-ru|Влади́мир Влади́мирович Маяко́вский}}; ([[19 Gorffennaf]] [[1893]] &ndash; [[14 Ebrill]] [[1930]])) yn fardd, dramodydd, arlunydd ac actor [[Rwsiaid]]d.<ref>[http://www.sensitiveskinmagazine.com/mayakovsky/ ''Sensitive Skin'', ''Mayakovsky - New Translations'']</ref> Roedd yn un o brif ffigyrau celfyddydau ''avant garde'' Rwsia yr [[20g]].
 
==Bywyd Cynnar==
Fe'i ganed yn [[Baghdati]], [[Ymerodraeth Rwsia]], (sydd bellach yn [[Georgia]]). Roedd ei dad yn goedwigwr ac yn [[Cosac Zaporozhian|Gosac Zaporozhian]] a'i fam o dras [[Cosac Kuban]].<ref>{{cite web |url=http://az.lib.ru/m/majakowskij_w_w/text_0212.shtml |title=Маяковский Владимир Владимирович. В. Маяковский в воспоминаниях современников |publisher=Lib.ru |language=Russian |trans_title=''Mayakovsky, Vladimir Vladimirovich. Vladimir Mayakovsky in the memoirs of contemporaries'' |format=SHTML |accessdate=7 Ebrill 2010 }}</ref> Er i Mayakovsky siarad [[Georgeg]] yn yr ysgol a gyda'i ffrindiau, ei famiaith oedd [[Rwsieg]]. Yn 14 oed fe gymerodd ran ym mhrotest [[Sosialaeth|sosialaidd]] Kutaisi, y dref ble fynychai'r ysgol uwchradd leol. Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1906, symudodd i Fosgow gyda'i fam a'i ddwy chwaer.
 
Ym Moscow fe ddatblygodd ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth [[Marcsiaeth|Farcsaidd]] ac ymunodd â Phlaid Lafur Cymdeithasol Democrataidd Rwsia ac yna yn ddiweddarach ymunodd â'r RSDLP, fel [[Bolsiefic]]. Ym 1908, bu rhaid iddo adael ei ysgol ramadeg am nad oedd ei fam yn gallu talu'r ffïoedd.
 
Yn llanc ifanc, fe'i carcharwyd deirgwaith am weithgaredd gwleidyddol gwrth-sefydliadol, ond fe lwyddodd osgoi cael ei alltudio ymhell o [[Moscfa|Foscfa]] oherwydd ei oedran. Yn ystod ei gyfnod yng Ngharchar Butyrka ym 1909 fe ddechreuodd ysgrifennu barddoniaeth ond cafodd y cerddi eu cymryd oddi wrtho gan yr awdurdodau. Ym 1911 ymunodd â Choleg Celf Moscow ble cyfarfu ag aelodau mudiad [[Dyfodoliaeth]] ([[Saesneg]]: ''Futurism'') Rwsia gan ddod yn llefarydd i'r grŵp ''Gileas'' (Гилея) a chyfarfu â David Burliuk a fu'n ddylanwad mawr arno.
 
==Bywyd llenyddol==
Ym 1912 ymddangosodd ei gerddi cyntaf yn y cyhoeddiad Dyfodoliaethol ''Cernod yn wyneb chwaeth gyhoeddus'' <ref>{{cite web |url=http://www.unknown.nu/futurism/slap.html |title=A Slap in the Face of Public Taste |work=Futurism |publisher=The Niuean Pop Cultural Archive |accessdate=7 April 2010 }}</ref>, ''Nos'' (Ночь) a ''BpreBore'' (Утро). Ym 1914 cafodd Burlyuk a Mayakovsky eu diarddel o Ysgol Gelf Moscow am eu gweithgaredd gwleidyddol.
 
[[Image:Mayakovsky-kak-delat-stixi.png|bawd|200px|dde|Delwedd o ''Как делать стихи (Sut i wneud barddoniaeth)'' gan Mayakovsky'.]]
Yn haf 1915, fe syrthiodd Mayakovsky mewn cariad â merch briod, [[Lilya Brik]], gwraig y cyhoeddwr [[Osip Brik]]. Fe gyflwynwyd gan Mayakovsky y gerdd ''Ffliwt Asgwrn Cefn'' (1916) iddi. Roedd ei gariad cudd gyda Lilya, ei argraffiadau o'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a sosialaeth yn dylanwadu’n gryf arno yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r cerddi ''Rhyfel a'r Byd'' (1916) yn ymwneud ag erchylltra rhyfel a ''Dyn'' (1917) yn ymdrin â phoen cariad.
 
Fe wrthodwyd Mayakovsky pan wirfoddolodd ar ddechau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]], ac yn ystod 1915-19171915–1917 gweithiodd fel drafftiwr yn Ysgol Cerbydau Milwrol [[Petrograd]]. Ym 1917 ar ddechrau [[Chwyldro Rwsia]] roedd Mayakovsky ynm [[Petrograd|Mhetrograd]] i weld dechrau'r [[Chwyldro Tachwedd]]. Darllenodd gerddi fel ''Gorymdaith Goch! I'r môr-filwyr cochion: 1918'' (Левый марш (Матросам) mewn theatrau y llynges i gynulleidfaoedd o forwyr.
[[Image:Mayakovsky Pasternak.jpg|chwith|bawd|300px|[[Mayakovsky]] (canol) gyda ffrindiau yn cynnwys [[Lilya Brik]], [[Sergei Eisenstein|Eisenstein]] (trydedd o'r chwith) a [[Boris Pasternak]] (ail o'r chwith).]]
Perfformiwyd ei ddrama ddychanol ''[[Mystery-Bouffe]]'' ym 1918, ac eto, yn fwy llwyddiannus, ym 1921. Ym 1918 ysgrifennodd a chymerodd ran fel prif actor mewn tri ffilm mud a wnaethpwyd yn St. Petersburg. Yr unig ddarn o ffilm o Mayakovsky sydd wedi goroesi yw ''Y Fenyw Ifanc a'r Hwligan'' yn seiliedig ar waith Edmondo De Amicis ''La maestrina degli operai'' Tybir bod ei ddau ffilm arall wedi'u colli .<ref>Petrić, Vlada. ''Constructivism in Film: The Man With the Movie Camera:A Cinematic Analysis''. Cambridge University Press. 1987. Page 32. ISBN 0-521-32174-3</ref>
 
Ar ôl symud yn ôl i Moscow, gweithiodd Mayakovsky i Asiantaeth Telegraff Rwsia yn creu cynlluniau a thestun i bosteri propaganda. Yn 1919 fe gyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o gerddi ''Vladimir Mayakovsky Casgliad 1909-19191909–1919 (Все сочиненное Владимиром Маяковским)''. Yn yr hinsawdd ddiwylliannol yn yr [[Undeb Sofietaidd]] cynnar, fe dyfodd ei boblogrwydd yn gyflym. O 1922 i 1928 roedd yn aelod blaengar o'r Ffrynt Celfyddydol Chwith ac fe ddiffiniodd ei waith fel ''Dyfodoliaeth Gomiwnyddol'' (комфут). Gyda [[Sergei Tretyakov]] ac [[Osip Brik]] (gwr ei gariad Lilya) fu'n gyd olygydd y cylchgrawn pwysig LEF.
 
Rhwyg 1923 a 1925 fe weithiodd hefyd gyda'r dylunydd [[Alexander Rodchenko]] i greu cynlluniau ar gyfer hysbysebion i'r llywodraeth a chwmnïau preifat. Roedd Mayakovsky yn ysgrifennu’r testun a Rodchenko yn ei gynllunio. Arwyddwyd y gwaith yn ‘’Mayakovsky-Rodchenko Adeiladwyr Hysbysebion’’ yn ymwybodol o’r paradocs o wneud hysbysebion yn ôl y steil cyfalafol er mwyn hybu comiwnyddiaeth a gwerthu nwyddau traul.<ref>http://www.moma.org/interactives/exhibitions/1998/rodchenko/texts/graphic_design.html</ref>
[[Image:Plakat mayakowski gross.jpg|bawd|180px|Poster propaganda gan Mayakovsky]]
Ar daith ddarlithio yn yr Unol Daleithiau, cyfarfu ag Elli Jones, a fu esgor ar blentyn yn ddiweddarach i'w ferch. Mynnodd Mayakovsky nid oedd yn gwybod am y babann tan 1929, pan welodd y ddeuddyn ei gilydd yn gudd yn Ne Ffrainc.
 
Ar ddiwedd y 1920au dechreuodd Mayakovsky golli ffydd mewn trywydd yr Undeb Sofietaidd o dan arweinyddiaeth [[Joseff Stalin]]; mae ei ddrama ddychanol ''Lleuen Gwely'' (''Клоп'', 1929) a'r ''Baddondy'' (''Баня'', 1930), yn deilio o fiwrocratiaeth ac agwedd Philistaidd yr awdurdodau.
 
Ar noson 14 Ebrill, 1930, saethodd Mayakovsky ei hun. Mae ei ferch Yelena Vladimirovna Mayakovskaya, yn wrth-ddweud yr hanes swyddogol.<ref>http://rbth.co.uk/arts/2013/07/09/mayakovskys_daughter_speaks_out_on_her_parents_love_story_and_her_own_le_27905.html</ref>
 
Fe gladdwyd Mayakovsky ym Mynwent Novodevichy, Moscow.
 
 
Ym 1986 rhwyddhawyd y canwr Saesneg [[Billy Bragg]] y record hir ''Talking with the Taxman about Poetry'', yr enw yn dod o gerdd Mayakovsky.
 
 
[[Delwedd:1918 vmayakovsky-lbrik retouched.jpg|bawd|Ffotograff o Mayakovsky a'i gariad [[Lilya Brik]], 1918 ac isod fersiwn gyda Brik wedi diflannu yn dilyn sensro gan y llywodraeth Sofietaidd]]
 
133

golygiad