Utamaro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ca:Kitagawa Utamaro
nn
Llinell 4:
Mae Utamaro yn adnabyddus yn neilltuol am ei astudiaethau hynod o ferched, llawn awyrgylch, a elwir ''[[bijinga]]''. Cyhoeddoedd yn ogystal nifer o luniau o fyd natur, yn arbennig ar gyfer cyfres o lyfrau darluniedig am [[Trychfilod|drychfilod]]. Cyrhaeddodd ei waith [[Ewrop]] yn ail hanner y [[19eg ganrif]] a chafodd ddylanwad mawr ar arlunwyr [[Ffrainc]] a gwledydd eraill.
 
Ychydig sy'n hysbys am fywyd personol Utamaro a'i yrfa ac mae'r hanes yn amrywio yn ôl ei ffynhonellffynhonnell. Cafodd ei eni naill ai yn [[Edo]] (dinas [[Tokyo]] heddiw), [[Kyoto]], neu [[Osaka]], neu mewn dref ranbarthol anhysbys, tua'r flwyddyn [[1753]]. Yn ôl traddodiad arall cafodd ei eni yn[[Yoshiwara]], ardal bleser enwog Edo, yn fab i berchennog tŷ te. Ei enw bedydd oedd Kitagawa Ichitaro.
 
Yn fachgen ifanc aeth yn brentis i'r arlunydd [[Toriyama Sekien]]. Arosodd efo Seiken hyd farwolaeth yr arlunydd yn [[1788]] (honnir un traddodiad fod Utamaro yn fab iddo). Newidiodd ei enw i Utamaro, fel oedd yr arfer, ac ymddengys iddi briodi hefyd, er na chafodd plant.