Y Greal Santaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sh:Sveti gral
nn
Llinell 5:
Crybwyllir y Greal gyntaf yn ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan Chrétien de Troyes, sy'n dyddio rhwng [[1180]] a [[1191]]. Cysylltir y Greal Santaidd yn aml a [[Joseff o Arimathea]]; ymddengys fod hyn yn dyddio o ''Joseph d'Arimathie'' gan [[Robert de Boron]] yn ddiweddar yn y [[12fed ganrif]], lle dywedir i Joseff dderbyn y Greal gan weledigaeth o'r Iesu a'i yrru gyda'i ddilynwyr i [[Ynys Brydain]]. Mewn fersiynau diweddarach, dywedir i Joseff ddefnyddio'r Greal i gasglu gwaed Iesu wrth ei gladdu. Daeth hanes y Greal yn ran bwysig o'r chwedlau ynghlwm wrth y brenin [[Arthur]], gan ymddangos gyntaf yn y cyswllt yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]].
 
Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft [[Roger Sherman Loomis|R. S. Loomis]], fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell [[Y Celtiaid|Geltaidd]], gan gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y [[Pair Dadeni]], a'r peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r [[duwies]]au Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a ffynhonellffynhonnell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.
 
Yn Gymraeg, nid yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' yn [[y Tair Rhamant]] yn crybwyll y Greal wrth ei enw, er bod y Greal yn elfen bwysig yn y fersiwn Ffranged cyfatebol, ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan [[Chrétien de Troyes]], lle mae Perceval yn cyfarfod y [[Brenin-Bysgotwr]] sydd wedi ei anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw yn Gymraeg yn ''[[Ystoryaeu Seint Greal]]'', cyfeithiad yn y [[14eg ganrif]] o ddau destun [[Ffrangeg]] cynharach.