Rebecca Llewellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
=== Gyrfa ieuenctid (1999–2003) ===
Chwaraeodd Llewellyn ei gęm gyntaf ar y gylched ITF Iau ym mis Chwefror 1999 a'i gem olaf ym mis Mehefin 2003 ym Mhencampwriaethau Iau Wimbledon. Gwnaeth ei pherfformiadau gorau yn y senglau pan gyrhaeddodd ddwy rownd gyn-derfynol mewn digwyddiadau is-haen ieuenctid yn 2000. Cyrhaeddodd hefyd y chwarteri olaf mewn un digwyddiad arall. O ran llwyddiant Camp Lawn, daeth ei chanlyniad gorau yn Wimbledon yn 2000 pan enillodd ddwy gêm ragbrofol a mynd yn ei blaen i gyrraedd yr ail rownd. Erbyn diwedd ei gyrfa iau, roedd ganddi record ennill-colli sengl o 11–14 a safle uchaf o 234 ar gyfer ei gyrfa (a gyrhaeddwyd ar 25 Mehefin 2001). <ref name="Junior">{{ITF junior profile|id=35013249}}</ref>
 
Fel chwaraewr dyblau iau, daeth yn ail ar un achlysur. Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn y dyblau ar achlysur arall. Unwaith yn unig y bu'n cystadlu mewn dyblau yn y Gamp Lawn, a hynny ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2001. Cafodd Katie O'Brien a hithau eu bwrw allan yn y rownd gyntaf. Daeth ei gyrfa iau i ben gyda record ennill-colli o 5–7 mewn dyblau a safle dyblau uchaf o rif 410 (a gyrhaeddwyd ar 16 Ebrill 2001).<ref name="Junior">{{ITF junior profile|id=35013249}}</ref>