Fernando Torres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 28:
==Gyrfa Clwb==
===Atlético Madrid===
Arwyddodd gontract proffesiynol efo Atlético ym 1999, a dechreuodd ymarfer efo'r tîm cyntaf ar gyfer y flwyddyn [[2000]]-[[2001]]. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y tymor yn dda iddo wedi iddo gael anaf i'w goes, ac ni ymarferodd tan fis Rhagfyr. Wedi gwella o'r anaf, ymddangosodd am y tro cyntaf i Atlético ym mis Mai 2001 yn erbyn [[CD Leganés]] yn y [[Vicente Calderon]]. Wythnos yn ddiweddarach, sgoriodd ei gôl gyntaf dros y clwb yn erbyn [[Albacete]], ond yn anffodus ni enillodd Atlético ddyrchafiad i La Liga. Yn [[2001]]-[[2002]], enillodd Atlético ddyrchafiad, gyda Torres yn sgorio chwe gwaith mewn 36 ymddangosiad. Roedd flwyddyn gyntaf Torres yn La Liga yn well, fodd bynnag, wrth sgorio 13 gwaith mewn 29 gêm. Yn ei ail flwyddyn, daeth yn gapten ieuengaf Atlético erioed, yn 19 oed. Sgoriodd 19 gwaith mewn 35 gêm y flwyddyn honno, gydag Atlético y gorffen yn 7fed, ac ymddangos yng [[Cwpan Intertoto|Nghwpan Intertoto]] y flwyddyn wedyn. Chwaraeodd am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yn Ewrop yn erbyn [[OBK Beograd]], gan sgorio dwywaith dros y ddwy gêm. Trechwyd Atlético yn y rownd nesaf gan [[Villarreal CF|Villarreal]]. Roedd yna straeon bod diddordeb yn ei brynu gan [[Chelsea F.C.|Chelsea ]], pencampwyr yr [[Uwchgynghrair Lloegr]], ond dywedodd cadeirydd Atlético bod 'dim siawns' o'i arwyddo. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2006, dywedodd y cadeirydd bod y clwb yn barod i wrando ar gynigion amdano, a honnodd Torres bod [[Newcastle United F.C.|Newcastle United]] wedi gwneud cynnig amdano.
 
Ni ddaeth unrhyw beth o hyn, ac fe aeth Torres ymlaen i sgorio 14 gôl yn y tymor 2006-07. Yn haf 2007, roedd y cyfryngau yn Lloegr yn dweud mai Torres oedd prif darged [[Rafael Benítez]], rheolwr Lerpwl. Ychydig diweddarach, dywedwyd bod Atlético a Lerpwl wedi dod i gytundeb am bris Torres, sef tua £20 miliwn efo [[Luis Garcìa]] yn symud y ffordd arall. Ar 3 Gorffennaf, pasiodd Torres ei brawf meddygol, ac arwyddodd gytundeb am chwe blynedd. Ffarweliodd â chefnogwyr Atlético ar y 4 Gorffennaf, cyn hedfan i Loegr i gael ei gyflwyno fel chwaraewr Lerpwl.
Llinell 34:
===Lerpwl===
====2007-08====
Ymddangosodd am y tro cyntaf i Lerpwl yn erbyn [[Aston Villa F.C.|Aston Villa]], mewn buddugoliaeth o 2-1 ar 11 Awst 2007. Dechreuodd am y tro cyntaf yn [[Anfield]] yn erbyn Chelsea, a sgorio yn y 16ed munud. Sgoriodd ei hat-tric gyntaf i Lerpwl yn y gêm gwpan yn erbyn [[Reading F.C.|Reading]]. Sgoriodd ei goliau gyntaf yng [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA|Nghynghrair y Pencampwyr UEFA]] yn erbyn [[FCF.C. Porto|Porto]] wrth i Lerpwl guro 4-1.
Sgoriodd hat-tric mewn dwy gêm gartref yn olynol: [[Middlesbrough F.C.|Middlesbrough]], ac wedyn [[West Ham United F.C.|West Ham United]], y chwaraewr Lerpwl cyntaf i wneud hyn ers [[Jack Balmer]] yn 1946. Yn Ebrill, sgoriodd ei 29fed gôl o'r tymor yn erbyn Arsenal yn rownd go-gyn-derfynol, mwy na wnaeth hen chwaraewr [[Michael Owen (pêl-droediwr)|Michael Owen]] erioed sgorio. Ar yr 11fed o Ebrill, cyhoeddwyd fod Torres ar y rhestr fer i ennill y [[PFA Players' Player of the Year Award]], ac enwebwyd ef yn nhîm y flwyddyn honno. Ar y 4ydd o Ebrill, sgoriodd yn erbyn [[Manchester City F.C.|Manchester City]], am yr wythfed gêm gartref yn olynol, yn dod yn unfaint â record [[Roger Hunt]]. Roedd arbenigwyr yn dweud bod ei gyd-weithrediad ef a [[Steven Gerrard]] yn bwysig iawn i lwyddiant Lerpwl y flwyddyn honno.
 
Llinell 40:
 
====2008-2009====
Nid oedd hon yn flwyddyn mor lwyddiannus i Torres yn bersonol, gan iddo ddioddef sawl anaf ar hyd y flwyddyn. Sgoriodd y gôl fuddugol yn y gêm gyntaf yn erbyn [[Sunderland A.F.C.|Sunderland]], ond ni sgoriodd wedyn tan iddo rwydo ddwywaith yn erbyn [[Everton F.C.|Everton]] ar 27 o Fedi. Anafodd llinyn y gar wrth chwarae dros Sbaen, oedd yn golygu ei fod yn methu'r ddwy gêm yng [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA|Nghynghrair y Pencampwyr UEFA]] yn erbyn ei hen glwb, Atlético. Enwebwyd ef ar gyfer [[Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn FIFA]] 2008, ond daeth yn drydydd i [[Cristiano Ronaldo]]. Daeth yn ôl i sgorio yng [[Cwpan yr FA|Nghwpan yr FA]] yn erbyn [[Preston North End F.C.|Preston North End]], ac wedyn sgoriodd ddwywaith yn y munudau olaf yn erbyn Chelsea i gadw gobeithion Lerpwl am ennill y gynghrair yn fyw.
 
Chwaraeodd yn erbyn [[Real Madrid]], prif elynion Atlético ym mis Mawrth yn y [[Stadiwm Bernabèu]], wrth i Lerpwl ennill 1-0 efo peniad [[Yossi Benayoun]]. Yn Anfield, sgoriodd Torres y gyntaf i Lerpwl mewn buddugoliaeth drom o 4-0, 5-0 dros y ddwy gêm. Yr wythnos wedyn, daeth Torres i ddod a'r sgôr yn gyfartal yn erbyn [[Manchester United F.C.|Manchester United]], a helpodd iddynt ennill o 4-1 yn [[Old Trafford]]. Enwebwyd ef yn Nhîm y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol. Sgoriodd ei 50fed gôl ym mhob cystadleuaeth i'r clwb yn erbyn Tottenham ar ddiwrnod olaf y tymor wrth i Lerpwl ddod yn 2il. Gorffennodd y tymor efo 17 gôl.
 
====2009-10====
Roedd hwn yn flwyddyn drychinebus i'r Cochion, efo dyfodol Torres yn cael ei gwestiynu yn wythnosol. Dechreuodd y gwlyddyn yn dda, a sgorio hatric yn erbyn [[Hull City A.F.C.|Hull City]], dwywaith yn erbyn [[West Ham United F.C.|West Ham United]] ac unwaith yn erbyn [[Aston Villa F.C.|Aston Villa]] a [[Bolton Wanderers F.C.|Bolton Wanderers]]. Sgoriodd y gôl gyntaf yn erbyn [[Manchester United F.C.|Manchester United]] mewn buddugoliaeth o 2-0, a sgoriodd ei 50fed gôl gynghrair yn erbyn Aston Villa yn y funud olaf mewn buddugoliaeth o 1-0 yn Rhagfyr 2009, y chwaraewr cyflymaf yn hanes Lerpwl. Roedd Lerpwl wedi mynd allan o [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA|Gynghrair y Pencampwyr UEFA]], [[Cwpan yr FA]], a'r [[Cwpan Cynghrair Lloegr|Gwpan Coca-ColaCarling]], ac roeddynt yn ymdrechu i orffen yn 4ydd. Yn anffodus, methodd diwedd y flwyddyn wedi anafu ei ben-glin ar ôl sgorio ddwywaith yn erbyn [[Benfica]] yn y [[Cynghrair Europa|Gynghrair Europa]], a daeth Lerpwl yn 7fed yn y gynghrair, a ganlynodd yn y rheolwr, [[Rafael Benítez]], yn cael ei ddiswyddo. Sgoriodd 22 gwaith mewn dim ond 32 ymddangosiad y flwyddyn yna.
 
====2010-11====