Snorlax: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Snorlax"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:13, 6 Gorffennaf 2019

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Snorlax (sy'n cael ei adnabod yn Japan fel Kabigon yn Japan (Japaneg: Kabigon (カビゴン). Wedi'i greu gan Ken Sugimori, ymddangosodd Snorlax gyntaf yn y gêm fideo Game Boy, <i id="mwFA">Pokémon Red</i> and <i id="mwFQ">Blue</i>, a gemau dilynol, a ymddangosodd yn ddiweddarach mewn amrywiol nwyddau, teitlau deilliedig, ac addasiadau wedi'u hanimeiddio a'u hargraffu o'r fasnachfraint.

Mae Snorlax yn cael ei alw'n 'y Pokémon sy'n cysgu' ac yn deip 'normal' o bokémon. Mae'n esblygiad o'r Munchlax. Mae'n greadur mawr, tew, lliw glas gyda llygaid a cheg caëedig ac mae ganddo ddau ddant sy'n ymestyn allan ac o waelod ei geg. Mae'n gallu bwyta bron iawn unrhyw beth ac mae angen tua 900 pwys o fwyd bob dydd. Mae'n greadur cysglyd, ond gall barhau i fwyta hyd yn oed ar ôl iddo syrthio i gysgu. O ran ei daldra, mae'n 6 troedfedd 11 modfedd (2.1 metr), ac mae'n pwyso 1,014.1 pwys (460.0 cilogram). Mae'n byw yn y rhanbarthau Alola, Kalos (Canolog) a Kanto.

Mae ei symudiadau yn cynnwys: taclo, cyrliad amddiffynol, anghofrwydd, llyfu, naddu, dylyfu gên, clep corff, gorffwys, chwyrnu, siarad yn ei gwsg, ergyd giga, rowlio allan, bloc, drwm bola, crensh, clep drom a marchnerth uchel.

Cyfeiriadau