Snorlax: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint [[Pokémon]] a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw '''Snorlax''' (sy'n cael ei adnabod yn Japan fel '''Kabigon''' yn Japan (Japaneg: {{Nihongo|'''Kabigon'''|カビゴン}}. Wedi'i greu gan Ken Sugimori, ymddangosodd Snorlax gyntaf yn y gêm fideo Game Boy, a gemau dilynol, a ymddangosodd yn ddiweddarach mewn amrywiol nwyddau, teitlau deilliedig, ac addasiadau wedi'u hanimeiddio a'u hargraffu o'r fasnachfraint.
 
Mae Snorlax yn cael ei alw'n 'y Pokémon sy'n cysgu' ac yn deip 'normal' o bokémon. Mae'n esblygiad o'r Munchlax. Mae'n greadur mawr, tew, lliw glas gyda llygaid a cheg caëedig ac mae ganddo ddau ddant sy'n ymestyn allan ac o waelod ei geg. Mae'n gallu bwyta bron iawn unrhyw beth ac mae angen tua 900 pwys o fwyd bob dydd. Mae'n greadur cysglyd, ond gall barhau i fwyta hyd yn oed ar ôl iddo syrthio i gysgu. O ran ei daldra, mae'n 6 troedfedd 11 modfedd (2.1 metr), ac mae'n pwyso 1,014.1 pwys (460.0 cilogram). Mae'n byw yn y rhanbarthau Alola, Kalos (Canolog) a Kanto.<ref name=":0">{{Cite book|title=Pokemon: Super Deluxe Essential Handbook|last=|first=|publisher=Scholastic Inc.|year=2018|isbn=|location=|pages=403}}</ref>
 
Mae ei symudiadau yn cynnwys: taclo, cyrliad amddiffynol, anghofrwydd, llyfu, naddu, dylyfu gên, clep corff, gorffwys, chwyrnu, siarad yn ei gwsg, ergyd giga, rowlio allan, bloc, drwm bola, crensh, clep drom a marchnerth uchel.<ref name=":0" />
 
== Cyfeiriadau ==