Scafell Pike: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwynnfyd (sgwrs | cyfraniadau)
B Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{mynydd | enw =Scafell Pike | ardal =Ardal y Llynnoedd | uchder =978m | gwlad =Lloegr }} Mynydd uchaf Lloegr yw Scafell Pi...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:38, 17 Medi 2010


Mynydd uchaf Lloegr yw Scafell Pike, ac mae'n cyrraedd 978m. Yng ngogledd orllewin Lloegr y mae'r mynydd, mewn ardal o'r enw Ardal y Llynnoedd. Mae'n un o gadwyn hir o fynyddoedd yng nghanol Ardal y Llynnoedd, wedi'i amgylchynu gyda mynyddoedd fel Great Gable, Kirk Fell, Sca Fell a Broad Crag.

Scafell Pike
{{{mynyddoedd}}}
Llun {{{caption}}}
Uchder 978m
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Lloegr

Twristiaeth

Mae llawer iawn o dwristiaid yn ogystal â cherddwyr a dringwyr lleol yn cerdded Scafell Pike bob blwyddyn. Yn wir, mae'r mynydd yn cael ei adnabod fel un o ddringfeydd gorau Ardal y Llynnoedd yn un faint ag yw yn daith gerdded. Er ei safle weddol unig, mae pentref cyfagos o'r enw Nether Wasdale ac mae pentrefi eraill yn bellach. Yn Nether Wasdale mae yna hostel ieuenctid, ac mae safleoedd gwersylla yn frith o gwmpas y lle.

Cerdded

Mae modd cyrraedd y mynydd o nifer o gymoedd gwahanol -

  • Eskdale
  • Borrowdale
  • Great Langdale
  • Wasdale Head

Mae ffyrdd Borrowdale ac Eskdale yn hir iawn, ac nid oes golwg o'r mynydd am yn hir. Mae Wasdale Head yn ffordd haws a chyflymach o gyrraedd y mynydd.

Disgrifiodd A. Wainwright Scafell Pike fel mynydd, bob modfedd ohono. Ac os oes person fel hwnnw yn dweud peth felly, yna mae'n siwr o fod yn fynydd a hanner!

Rhinweddau

Mae'r holl Scafell Pike a'i gadwyn yn ardal creigiog iawn ac mae copa Scafell Pike yn wyneb o gerrig sydd yn rhaid dringo drostynt i gyrraedd y gorlan ar y brig.