Goronwy Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwleidydd ac Aelod Seneddol [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] Cymreig oedd '''Goronwy Owen Roberts, Barwn Goronwy-Roberts'''. Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Gaernarfon ac yna [[Caernarfon (etholaeth)|etholaeth Caernarfon]] o 1945 hyd 1974.
 
Roedd yyn frodor o [[Penrhos, Gwynedd|Benrhos]], [[Bangor]], yn fab i E. E. ac Amelia Roberts. Addysgwyd ef ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]] a [[Prifysgol Llundain|Phrifysgol Llundain]].
 
Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1945, fel olynydd i'r Rhyddfrydwr [[Goronwy Owen (gwleidydd)|Goronwy Owen]] yna o 1950 dros etholaeth Caernarfon. Yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, collodd yei sedd i [[Dafydd Wigley]]. Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd, daliodd nifer o swyddi. Cymerodd ran amlwg yn yr [[Ymgyrch Senedd i Gymru]], ac yn 1957 cyflwynodd ddeiseb yn galw am senedd ddeddfwriaethol etholedig wedi'i harwyddo gan tua 250,000 o bobl i senedd San Steffan.
 
Gwnaed ef yn aelod o [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]] yn 1974 fel "Barwn Goronwy-Roberts", a bu'n is-arweinydd Ty'r Arglwyddi o 1975 hyd 1979.