William Camden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
Hynafiaethydd a hanesydd o [[Saeson|Sais]] oedd '''William Camden''' ([[2 Mai]] [[1551]] – [[9 Tachwedd]] [[1623]]), a aned yn [[Llundain]]. Roedd yn hanesydd blaengar a gafodd ddylanwad mawr ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr.
 
Roedd yn fab i arlunydd. Cafodd ei adddysg yn [[Ysgol Sant Paul, Llundain]], a [[Prifysgol Rhydychen|Phrifysgol Rhydychen]]. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro ([[1575]]) ac yna'n brifathro ([[1593]]) yn [[Ysgol San SteffanWestminster]], Llundain. Bu farw yn [[Chislehurst]], 1623.
 
Gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol Camden oedd ei gyfrol ''Britannia'' a gyhoeddodd yn [[Lladin]] yn [[1586]] (fe'i cyfieithwyd i'r [[Saesneg]] yn [[1610]]). Arolwg [[topograffeg]]ol o [[Ynysoedd Prydain]] ydyw, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar hynafiaethau yn ogystal â manylion [[daearyddiaeth|daearyddol]]. Mae'r cyfan wedi'i trefnu fesul sir mewn dull arloesol. Dyma'r gwaith y cyfeirir ato gan amlaf fel "''Camden's Britannia''" gan hynafiaethwyr y ddwy ganrif olynol fel [[Thomas Pennant]]; roedd yn fath o Feibl iddynt. Erys yn ffynhonnell werthfawr iawn am hanes gwledydd Prydain.