Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: an:Anabaptismo
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 9:
Credir mai Annibynnwr cyntaf Cymru oedd [[John Penri]], [[Piwritaniaeth|Piwritan]] o [[Brycheiniog|Frycheiniog]] a ddienyddiwyd yn 1593 am herio’r drefn eglwysig, ond tua chanol yr 17eg ganrif y dechreuodd Piwritaniaeth fwrw ei gwreiddiau yng Nghymru. Corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol gyntaf ar dir Cymru yn eglwys blwyf [[Llanfaches]], [[Sir Fynwy]], yn Nhachwedd 1639. Cyfarfu’r gynulleidfa fechan honno o dan weinidogaeth [[Walter Cradoc]], Piwritan dysgedig o Fynwy, ac yn ôl atgofion ei gyd-Biwritaniaid, [[Morgan Llwyd o Wynedd]] a [[William Erbury]], yr oedd yno gymdeithas wresog, [[seiad]]u brwd a chanu [[salm]]au nwyfus. Byrhoedlog fu'r sefyllfa hynny. Ym 1642, dechreuodd [[Rhyfeloedd Cartref Lloegr]] rhwng [[Siarl I, brenin Lloegr|Siarl I]] a’i Senedd, a chan mai gyda’r brenin yr oedd cydymdeimlad y rhelyw o bobl Cymru, bu’n rhaid i nifer o’r Piwritaniaid ffoi i [[Lloegr|Loegr]].
 
[[Delwedd:Capel Isaac 1016677.jpg|250px|bawd|Capel Isaac: ailadeiladwyd yr hen gapel yn 1848]]
Yn ddiweddarach, bu’r cysylltiadau a wnaed gyda phobl o argyhoeddiadau tebyg yn Lloegr o fantais i Biwritaniaid Cymru. Ym 1650, ychydig dros flwyddyn wedi i’r Seneddwyr ddienyddio Siarl I, cyflwynwyd [[Deddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru]] a sicrhaodd fod holl eiddo ac adnoddau [[Eglwys Lloegr]] yng Nghymru o dan reolaeth comisiwn o Biwritaniaid. Yn ogystal, roedd pwyllgor o weinidogion Piwritanaidd yn gyfrifol am enwebu gweinidogion i’r [[plwyf]]i. Bu’r ddeddf mewn grym am dair blynedd, ac er bod mesur ei dylanwad yn destun trafod, nid oes amheuaeth iddi ledu’r [[Efengyl]] yn ei gwedd Biwritanaidd i blwyfi na chawsant gyfle i’w chlywed cyn hynny, er mai cyfyng ar y cyfan fu ei dylanwad. Ceir tystiolaeth o’r lledaeniad hwn yn yr eglwysi newydd a gorfforwyd yn ystod y 1650au mewn mannau megis [[Capel Isaac]], y [[Cilgwyn]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], [[Llanigon]] ym Mrycheiniog, [[Abertawe]], [[Merthyr Tudful]] a [[Pwllheli|Phwllheli]].