Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GP
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1:
Mae '''Bryncir''' yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]; Cyfeirnod OS: SH 48120 44837. Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].
 
[[Delwedd:Bryncir Village - geograph.org.uk - 141244.jpg|250px|bawd|Bryncir]]
 
Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys [[Pen Llystyn|caer Rufeinig ym Mhen Llystyn]], lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r [[6ed ganrif]] gydag arysgrif mewn [[Lladin]] ac [[Ogam]]. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin [[Cymru]], ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.