Walter Colman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed Colman yn [[Cannock]], [[Swydd Stafford|Swydd Staford]], i deulu bonheddig a chyfoethog. Enw ei dad oedd Walter Coleman. Yn ddiweddarach rhoddodd teulu ei fam, y Whitgreaves, loches i [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl II]] ym 1651 yn Mosley Hall ger [[Wolverhampton]]. <ref>[https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-5978. Fennessy, I. (2004, Medi 23). Coleman, Walter (1600–1645), Franciscan friar, missionary, and writer. Oxford Dictionary of National Biography]. Adalwyd 11 Gorffennaf 2019</ref>
 
Gadawodd Colman â [[Lloegr]] yn ŵr ifanc i astudio yn y [[Coleg Douai|Coleg Saesnig]], [[Douai]]. Ym 1625 daeth yn aelod o Urdd Ffransisgaidd Douai, gan dderbyn yr enw mewn crefydd Christopher o St. Clare. Dyma'r enw sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o ffynonellau hanesyddol sy'n cyfeirio ato. <ref>Thaddeus, ''The Franciscans in England'' (London, 1898), 62, 72, 106</ref>
 
Ar ôl cwblhau ei flwyddyn o nofyddiaeth, dychwelodd i Loegr ar alwad yr uwch dad daleithiol, y Tad John Jennings. Wedi dychwelyd cafodd ei garcharu ar unwaith oherwydd iddo wrthod tyngu'r llw o deyrngarwch i'r frenhiniaeth [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Wedi'i ryddhau trwy ymdrechion ei ffrindiau, aeth Colman i [[Llundain|Lundain]], lle cafodd ei gyflogi yng ngwaith y weinidogaeth, a lle, yn ystod ei gyfnodau hamdden, cyfansoddodd ''La dace machabre'', neu ''Gornest Marwolaeth'' (Llundain, 1632 neu 1633), trafodaeth mewn medr a rhythm cain ar bwnc marwolaeth, a gyflwynwyd i'r Frenhines [[Henrietta Maria]], consort y [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Brenin Siarl I]].