Bwlch Llyn Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Gwynnfyd (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Lleolir '''Bwlch Llyn Bach''' yn ne [[Meirionnydd]], [[Gwynedd]]. Mae'r [[bwlch]] mynydd adnabyddus hwn yn gorwedd rhwng cadwyn [[Cadair Idris]] i'r gorllewin a [[Mynydd Ceiswyn]] a'i gymdogion i'r dwyrain.
 
Mae'r briffordd [[A487]] yn croesi'r bwlch. Gan ei disgrifio o'r de i'r gogledd, mae'n dringo o bentref bychan [[Minffordd (Tal-y-llyn)|Minffordd]] lle ceir cyffordd y B4405 sy'n arwain i lan [[Llyn Mwyngil]] ('Llyn Tal-y-llyn') a pentrefphentref [[Tal-y-llyn]]. Llifa afon Fawnog ar y chwith trwy goedwig Ystâd Idris. Mae'n dringo'n syrthserth dan greigiau ysgythrogysgithrog Craig y Llam i ben y bwlch (286 metr). Ar yr ochr arall mae'r ffordd yn disgyn yn araf trwy dirwedd mawnog, anial i lawr i gyfeiriad [[Dolgellau]] a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion (Crossfoxes). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig isyn uwch i fyny o'r dafarn. Ychydig ar ôl mynd heibio i'r Llwynogod Croesion mae'n ymuno â'r [[A470]], y lôn sy'n croesi [[Bwlch Oerddrws]] gan gysylltu Dolgellau a [[Dinas Mawddwy]].
 
Bu sawl llithriad cerrig ar ran ganol y fforffffordd rhwng Minffordd a phen y bwlch yn y gorffennol a byddai'n rhaid cau'r ffordd ar adegau oherwydd hynny. Mae'r bwlch yn gyfarwydd i deithwyr ar y gwasanaeth bws Traws-Cambria, sy'n cysylltu [[Caerdydd]] a [[Bangor]].