Gair mwys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwynnfyd (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Geiriau}} '''Gair Mwys''' yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf, mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fe...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:49, 21 Medi 2010
Gair Mwys yw y math o dechneg sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o jôc gan amlaf, mae llawer o'r rhain yn jôcs un llinell, bachog. Fel arfer, gair mwys yw pan mae gair â dau ystyr yn mynd i mewn i frawddeg lle mae'r ystyron yn eglur o'r ddau safbwynt. Pethau fel:
- Does dim pwynt ysgrifennu â phensil sydd wedi torri
- Roedd ar fy meddwl i gael hyd i fy oriawr coll i, ond doedd yr amser ddim gen i.
Penawdau
Mae geiriau mwys yn bethau cyffredin iawn mewn penawdau papur newydd, maent yn cael eu defnyddio yn aml i ddal sylw y darllenydd gyda rhyw chwarae ar eiriau. Roedd gan bapur newydd y Negesydd un da iawn:
Yma o Hud! - Dewin y gân yn rhoi noson o swyn pur (Yn sôn am Dafydd Iwan yn dod i berfformio)
Mae'n hawdd gweld sut mae papurau newydd yn dal sylw pobl felly, ac fe ellir defnyddio geiriau mwys mewn sawl ffordd wahanol iawn.
Hysbysebu
Mae'r gair mwys yn boblogaidd yn y byd hysbysebu, os oes eisiau i gael cwsmeriaid neu i ddenu pobl, yna mae'r dechneg yn gweithio'n wych. Dyma un gan siop awyr agored i werthu pebyll:
'Now is the discount of our winter tents'
Wrth gwrs, yn y fan yma mae'n newid llinell William Shakespeare 'Now is the winter of our discontent'!