Jaws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|es}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 22:
| rhif_imdb = 0073195
}}
Mae '''''Jaws''''' (1975) yn ffilm arswyd/cyffro a gyfarwyddwyd gan [[Steven Spielberg]] ac sy'n seiliedig ar nofel boblogaidd [[Peter Benchley]] a ysbrydolwyd gan yr ymosodiadau gan forgi ar Lannau Jersey ym 1916. Mae un o swyddogion yr heddlu yn nhref glan mormôr dychmygol, Ynys Amity yn ceisio amddiffyn y bobl ar y traeth o forgi mawr gwyn sy'n nofio'n agos i'r lan. Caiff ei awdurdod ei danseilio gan gyngor y dref sydd eisiau i'r traeth i barhau ar agor er mwyn elwa o arian y twristiaid dros fisoedd yr haf. Ar ôl nifer o ymosodiadau, gofynna'r heddlu am gymorth wrth fiolegwr morol a heliwr morgwn porffesiynol. Mae [[Roy Scheider]] yn chwarae rhan swyddog yr heddlu, [[Richard Dreyfuss]] fel y biolegwr morol Matt Hooper, [[Robert Shaw]] fel yr heluwr morgwn Quint, [[Lorraine Gary]] fel gwraig Brody, Ellen, a [[Murray Hamilton]] fel y Maer Vaughn.
 
Ystyrir fod Jaws wedi torri tir newydd ym myd y ffilmiau mawrion. Dyma oedd y ffilm hafaidd fawr gyntaf. Yn sgîl llwyddiant y ffilm, penderfynodd cyfarwyddwyr y stiwdios y dylent ryddhau'r ffilm ar raddfa llawer ehangach nag a wnaethpwyd yn flaenorol. Arweiniodd hyn at ffilmiau fel ''[[The Omen]]'' (1976) ac yna ''[[Star Wars]]'' (1977) yn cael eu rhyddhau yn ystod yr Haf, gan ddechrau ar draddodiad o ryddhau ffilmiau anturus a chyffrous yn ystod misoedd yr Haf. Rhyddhawyd tair ffilm fel dilyniant i'r ''Jaws'' gwreiddiol (Jaws 2 (1978), Jaws 3-D (1983) a Jaws: The Revenge (1987)) ond ni weithiodd Spielberg na Benchley ar yr un ohonynt. Yn 2006, rhyddhawyd gêm fideo o'r enw ''Jaws Unleashed''.