Agor y brif ddewislen

Newidiadau

dim crynodeb golygu
 
== Yr enw ==
'''Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch''' yw enw gwneud y pentref (cyfieithiad i'r [[Saesneg]]: "''St Mary's church in the hollow of the white hazel, near to the fierce whirlpool of St Tysilio of the red cave''"). Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y 19g, ar ôl i'r [[rheilffordd]] gyrraedd yr ynys (1846–1850) i geisio denu [[twristiaeth yng Nghymru|twristiaid]]. Yn ôl Syr [[John Morris-Jones]], teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng [[Cymru|Nghymru]], a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn '''Llanfairpwll''' (gan siaradwyr [[Cymraeg]]) neu '''Llanfair PG''' (gan siaradwyr [[Saesneg]]). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (''pwll'' + yr ansoddair ''gwyn'' + coed ''cyll''). Cyfeiria "Llantysilio" at blwyf eglwysig [[Llandysilio, Ynys Môn|Llandysilio]].
 
== Hanes ==
Defnyddiwr anhysbys