Walter Colman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Gadawodd Colman â [[Lloegr]] yn ŵr ifanc i astudio yn y [[Coleg Douai|Coleg Seisnig]], [[Douai]]. Ym 1625 daeth yn aelod o Urdd Ffransisgaidd Douai, gan dderbyn yr enw mewn crefydd Christopher o St. Clare. Dyma'r enw sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o ffynonellau hanesyddol sy'n cyfeirio ato. <ref>Thaddeus, ''The Franciscans in England'' (London, 1898), 62, 72, 106</ref>
 
Ar ôl cwblhau ei flwyddyn o nofyddiaeth, dychwelodd i Loegr ar alwad yr uwch dad daleithiol, y Tad John Jennings. Wedi dychwelyd cafodd ei garcharu ar unwaith oherwydd iddo wrthod tyngu'r llw o deyrngarwch i'r frenhiniaeth [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Wedi'i ryddhau trwy ymdrechion ei ffrindiau, aeth Colman i [[Llundain|Lundain]], lle cafodd ei gyflogi yng ngwaith y weinidogaeth, a lle, yn ystod ei gyfnodau hamdden, cyfansoddodd ''La dacedance machabre'', neu ''Gornest Marwolaeth'' (Llundain, 1632 neu 1633), trafodaeth mewn medr a rhythm cain ar bwnc marwolaeth, a gyflwynwyd i'r Frenhines [[Henrietta Maria]], consort y [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Brenin Siarl I]].
 
Dychwelodd Colman Ii Douai Ii adfer ei iechyd wedi ei gyfnod yn y carchar. Pan dorrodd erledigaeth grefyddol allan o'r newydd ym 1641, dychwelodd i Loegr. Ar 8 Rhagfyr yr un flwyddyn cafodd ei ddwyn i dreial, ynghyd â chwech o offeiriaid eraill, yr oedd dau ohonynt yn Fenedictiaid, roedd y pedwar arall yn aelodau o'r clerigwyr seciwlar. Cawsant i gyd eu condemnio i gael eu [[Crogi, diberfeddu a chwarteru]] ar 13 Rhagfyr, ond trwy ymyrraeth llysgennad [[Ffrainc]] gohiriwyd y dienyddiad am gyfnod amhenodol. Arhosodd Colman yng Ngharchar Newgate am nifer o flynyddoedd. Wedi blino'n lân ac yn ddioddef o newyn a llymder oherwydd ei garchariad bu farw ym 1645. <ref>Leo, Lives of the Saints and Blessed of the Three Orders of St. Francis (Taunton, 1887), IV, 368.</ref><ref>Mason, Certamen Seraphicum (Quaracchi, 1885), 211, 228</ref>
 
==Cyfeiriadau==