Din Gwrygon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: lt:Rekinas
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:TheWrekin.jpg|300px|bawd|Din Gwrygon o'r gogledd]]
Mae '''Din Gwrygon''' ([[Saesneg]]: ''The Wrekin'') yn fryn yn nwyrain [[Swydd Amwythig]], rhwng [[Yr Amwythig]] i'r gorllewin a [[Telford]] i'r dwyrain. Ei uchder yw 407m.
 
Ceir [[bryngaer]] [[Celtaidd|Geltaidd]] 8 hectar ar ei gopa. Mae ar diriogaeth llwyth y [[Cornovii]] ac mae rhai archaeolegwyr wedi dadlau ei bod yn "brifddinas" i'r llwyth. Ei enw gwreiddiol oedd ''Uriconio'' neu ''Uriconion'' ym [[Brythoneg|Mrythoneg]], sy'n rhoi 'Gwrygon' yn Gymraeg a 'Wrekin' yn Saesneg. Credir iddi roi ei henw i ddinas [[Rhufeiniaid|Rufeinig]] ''[[Viroconium Cornovium]]'', prifddinas y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, tua 5 milltir i'r gorllewin (safle [[Wroxeter]] heddiw).