Stafford Prys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd '''Stafford Prys''' ([[1732]] - [[1784]]). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng [[Cymru|Nghymru]] a daeth gwasg Prys yn [[Amwythig]] yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18fed ganrif, yn enwedig ar gyfer [[Gogledd Cymru]].
 
Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf [[Llanwnnog]], [[Maldwyn]] a'i wraig Mary Evans, o dras teulu [[Stradlingiaid]] [[Morgannwg]]. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn [[Swydd Amwythig]]. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o'r Amwythig. Ar ôl marwolaeth Prys yn 1784 parhaodd ei weddw i redeg y busnes teuluol am gyfnod.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PRYS-STA-1732.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]</ref>
 
==Llyfrau==