Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pengwern"

Lleihawyd o 2 feit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
'''Pengwern''' oedd llys brenhinoedd hen [[teyrnas Powys|deyrnas Powys]] cyn i'r deyrnas gynnar honno golli'r rhan helaeth o'i dir yn y dwyrain i frenhinoedd [[Mercia]].
 
Mae gan PengwernBengwern le arbennig yn [[llenyddiaeth Gymraeg]] oherwydd y gyfres o englynion a elwir '[[Canu Heledd]]', sy'n rhan o '[[Canu Llywarch Hen]]'. Yn yr englynion hynny mae [[Heledd]] yn galaru am farwolaeth ei frawd [[Cynddylan]] wrth amddiffyn Powys. Mae'r neuadd wedi'i llosgi ac mae Eryr Pengwern yn aros ei gyfle i fwyta cyrff y meirwon.
 
Mae union leoliad Pengwern yn ansicr, ond cytunir yn gyffredinol ei fod yn ardal [[Swydd Amwythig]] heddiw (sir sy'n gyfateb yn fras i diriogaeth yr hen Bowys yn y dwyrain). Mae safle'r [[Amwythig]] yn cael ei awgrymu'n aml ond nid oes tystiolaeth archaeolegol o drigfa yno cyn ei meddianu gan [[Mercia]]. Lleoliad arall a gynigir yw bryngaer gref [[Din Gwrygon]] ([[Saesneg]]: ''The Wrekin''). Roedd y gaer ar diriogaeth y [[Cornovii]], y llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] y tybir bod Cynddylan yn perthyn iddi.
 
Yn ôl [[Gerallt Gymro]], yn ei lyfrau ''[[Hanes y Daith Trwy Gymru]]'' a'r ''[[Disgrifiad o Gymru]]'', roedd Pengwern yn un o dri brif lys Cymru yn yr hen amser (ac felly'n un o [[Tair Talaith Cymru|Dair Talaith Cymru]] gyda [[Aberffraw]] a [[Castell Dinefwr|Dinefwr]]). Ar ôl cwymp Pengwern symudwyd llys brenhinoedd Powys i [[Mathrafal|Fathrafal]], gogledd Powys.
425

golygiad