Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "A5"

Lleihawyd o 39 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
 
 
==Llundain i'r Amwythig - y Ffordd Rufeinig==
Mae llwybr yr A5 ar draws [[Lloegr]] yn dilyn yn agos iawn i lwybr ''[[Stryd Watling]]'', [[ffordd Rufeinig]] o ''Dubris'' ([[Dover]]) i '' Londinium'' ([[Llundain]]), wedyn ymlaen i ''[[Viroconium]]'' (Caerurnas, neu [[Wroxeter]]).
 
Wedi ymadawiad y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]], parhaodd y ffordd, fel y rhan helaeth o'r rhwydwaith Rufeinig. Roedd nifer o [[Porthmon|borthmyn]] o Gymru yn defnyddio'r ffordd i yrru gwartheg i Lundain. Erbyn [[1780]] buasai'r rhan fwyaf ohono wedi dod dan reolaeth [[Ffordd dyrpeg|Tyrpeg]], sef ymddiriedolaethau preifat oedd yn codi toll ar deithwyr er mwyn cynnal y ffyrdd, y ffordd erbyn hyn yn cyrraedd [[Yr Amwythig]]. Pan gomisiynwyd [[Thomas Telford]] i wella'r ffordd o Lundain i Gaergybi (gweler isod), 'roedd llai o alw am waith sylweddol yn Lloegr.
 
==Yr Amwythig i Gaergybi - Ffordd Thomas Telford==
[[Image:A5-llwybrhanesyddol.JPG|bawd|dde|224px|Arwydd yn cofnodi llwybr hanesyddol y ffordd]]
 
'Roedd gwaith [[Thomas Telford|Telford]] yn llawer mwy sylweddol o [[Yr Amwythig|'r Amwythig]] i [[Caergybi|Gaergybi]].
 
'Roedd uno [[Prydain Fawr]] gydag [[Iwerddon]] wedi creu galw am gryfhau'r cysylltiad ymarferol rhwng [[Llundain]] a [[Dulyn]]. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd [[Thomas Telford]] i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o [[Llundain|Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. Wedi pasio deddf seneddol arbennig yn y flwyddyn honno, cychwynwyd ar y gwaith ym [[1815]], a pharhaodd nes cwblhau [[Pont y Borth]] yn [[1826]]. Hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]].
Mae nifer o nodweddion pensaernïol a pheirianyddol ar hyd y daith - cerrig milltir nodweddiadol am bob milltir o'r siwrnai, tollbyrth, giatau gyda chynllun 'codiad haul' arbennig. Adeiladwyd hefyd ''depots'' wedi eu lleoli yn rheolaidd ar hyd y ffordd, sef cilfachau wrth ymyl y ffordd er mwyn cadw graean a nwyddau cyffelyb i gynnal yr wyneb.
 
Mae cyfran sylweddol o'r nodweddion hanesyddol wedi goroesi ar hyd y daith o [[Yr Amwythig|'r Amwythig]] i [[Caergybi|Gaergybi]], gyda rhannau helaeth yn edrych yn debyg o hyd i'r ffordd wreiddiol. Erbyn heddiw mae'r ffordd wedi ei chydnabod fel heneb sydd yn haeddu cadwraeth.
 
Mae gwaith [[Thomas Telford|Telford]] hefyd wedi ei brofi i'r eithaf. Ym [[1997]], adeiladwyd "gwelliant" modern ar gost sylweddol yn [[Tŷ Nant|Nhŷ Nant]], er mwyn osgoi troellau ar ffordd [[Thomas Telford|Telford]]. Erbyn [[2005]], roedd llithriadau creigiau yn peryglu'r llwybr newydd hwnnw, a bu'n rhaid ei gau dros dro. Er mawr embaras i'r awdurdodau, gorfu iddynt brynu yn ôl ac ail-agor rhan o'r hen ffordd, oedd wedi dangos ei gwerth bron 200 mlynedd ar ôl ei hadeiladu.
Ar ôl pasio drwy [[Bwlch Watford|Fwlch Watford]], mae'n gwyro ychydig i'r gorllewin at [[Atherstone]] (ffordd osgoi arall, ond yr arwydd wreiddiol i [[Caergybi|Gaergybi]] i'w weld o hyd yng nghanol y pentref), [[Tamworth]] (ffordd osgoi bresennol), [[Cannock]] a [[Telford]]. Yno, tref newydd a enwir ar ôl y peiriannydd, mae'r enw 'A5' yn diflannu am gyfnod eto, wrth i draffig drwodd ymuno a'r [[M54]], ond unwaith eto mae'r ffordd syth wreiddiol i'w gweld.
 
Yn [[Yr Amwythig]], roedd y ffordd wreiddiol yn mynd i fewn i'r ddinas dros y Bont Seisnig, ac yn dod allan dros y Bont Gymreig. Mae'r A5 presennol yn wyriad mwy sylweddol fel rhan o ffordd osgoi ddeuol o gwmpas de'r ddinas. Mae ambell i wyriad modern hefyd ar y rhannau o'r ffordd hyd at arfordir [[Cymru]], yn cynnwys pontydd sylweddol o gwmpas [[Y Waun]], unwaith eto gyda'r ffordd wreiddiol yn mynd trwy'r pentref.
 
Yng Nghymru, mae'r A5 presennol yn dilyn yn ffyddlon iawn at lwybr [[Thomas Telford|Telford]], trwy [[Llangollen|Langollen]], [[Corwen]], [[Cerrigydrudion]] (gwyriad bychan), a [[Pentrefoelas|Phentrefoelas]]. Aiff ar draws [[Pont Waterloo]] i mewn i [[Betws-y-Coed|Fetws-y-Coed]], ymlaen at [[Capel Curig|Gapel Curig]] wrth godi at uchafion [[Eryri]], heibio [[Tryfan|Mynydd Tryfan]], [[Llyn Ogwen]] a thrwy [[Nant Ffrancon]] at [[Bethesda|Fethesda]]. Mae ffordd osgoi o gwmpas [[Bangor]], ac wrth wyro tuag at y cylchdro mae'r A5 presennol yn gadael llwybr [[Thomas Telford|Telford]], rhan ohoni yn cynnwys tollborth a phont bwyso Lôn Isaf. Ond gan mai'r [[A55]] yw'r fordd osgoi bellach, mae'r A5 yn ailymuno â'r llwybr gwreiddiol trwy [[Bangor|Fangor]].
425

golygiad