Gorchestion Beirdd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gorchestion Beirdd Cymru.JPG|250px|bawd|''Gorchestion Beirdd Cymru'' - wynebddalen argraffiad 1773]]
[[Blodeugerddi Cymraeg|Blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg]] glasurol yw '''''Gorchestion Beirdd Cymru'''''. Fe'i cyhoeddwyd gan [[Rhys Jones o'r Blaenau]] yn y flwyddyn [[1773]]. Oherwydd ei hymylon gwyn llydan cafodd y gyfrol ei llysenwi 'Y Bais Wen'. Mae'n un o'r blodeugerddi pwysicaf a mwyaf dylanwadol i'w chyhoeddi yn y [[Gymraeg]] erioed. Cafodd ei hargraffu gan [[Stafford Prys]] yn [[Yr Amwythig]].
 
Er gwaethaf diffygion testunol - yn bennaf am fod y golygydd yn gweithio heb fedru cymharu'r cerddi â chopiau sydd ar gael mewn [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau eraill]] - roedd y gyfrol yn gampwaith am ei gyfnod. Yn ogystal a detholiad o destunau o waith y [[Cynfeirdd]], ceir detholiad da o waith y [[cywyddwyr]], o [[Dafydd ap Gwilym|Ddafydd ap Gwilym]] i [[Wiliam Llŷn]].
Llinell 11:
Er bod rhai o fawrion y byd ymhlith y tanysgrifwyr, fel y llenor [[Samuel Johnson]], er gwaethaf y pris sylweddol ceir enwau nifer o bobl gyffredin yn y rhestr, yn feirdd, porthmyn, tafarnwyr, offeiriaid lleol, siopwyr a hyd yn oed garddwr ystâd Cors-y-Gedol.
 
Ail-gyhoeddwyd ac ehangwyd y ''Gorchestion'' yn [[1864]] dan olygyddiaeth [[Robert Elis (Cynddelw)]] a daeth y casgliad yn adnabyddus i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac ysgolheigion.
 
==Gweler hefyd==