Dyfrbont Pontcysyllte: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: hr:Akvedukt Pontcysyllte
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
== Hanes ==
Adeiladwyd y draphont gan [[Thomas Telford]] a [[William Jessop]], mae'n 1,007 [[troedfedd]] o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 [[modfedd]] o ddyfner. Mae wedi ei gyfansoddi o gafn [[haearn bwrw]] wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen cafn. Mae gan bob colofn rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: adeiladodd oleiaf un draphont i'r cynllun hwn gynt (sef Traphont [[Longdon-on-Tern]]) ar [[Camlas yr Amwythig|Gamlas yr Amwythig]], mae hon dal i'w gweld yno heddiw yng nghanol cae, er gadawyd y camlas flynyddoedd yn ôl.
 
Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn [[Ffowndri Plas Kynaston]], a thaflwyd pob uniad cynffonnog i fewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyd gwlân Cymreig wedi ei drochi mewn [[siwgr]] berwedig, ac wedyn eu seilio â [[Plwm|phlwm]]. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.