Ellis Wynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd newydd sbon danlli arall - ar Gomin ers 5 munud!
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
B gorffen yr hyn a ddechreuais
Llinell 5:
Ganed Ellis Wynne yn Y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng [[Talsarnau]] a [[Harlech]], yn yr hen [[Sir Feirionnydd]] (de [[Gwynedd]]), yn fab i Edward Wynne o blasdy Glyn Cywarch (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu [[Brogyntyn]], ger [[Croesoswallt]]. Trwy ei daid Elis Wyn roedd Ellis Wynne yn perthyn i [[John Jones, Maesygarnedd]], un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin [[Siarl I o Loegr]].
 
Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg [[yr Amwythig]]. Mae cerdd [[Lladin|Ladin]] gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg [[Biwmares]] yn ogystal. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Rydychen]] lle graddiodd ar y 1af o Fawrth [[1692]], yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn [[Edward Lhuyd]] tra oedd yno. Ym Medi [[1698]] priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.
 
Cafodd ei ordeinio'n [[offeiriad]] a [[diacon]] yn [[Eglwys Loegr]] yng [[Eglwys Gadeiriol Bangor|eglwys gadeiriol Bangor]] yn Rhagfyr [[1704]]. Daeth yn rheithor plwyfi [[Llanbedr]] a [[Llandanwg]] yn [[1705]] ac wedyn cafodd ofalaeth [[Llanfair]], ger Harlech, yn [[1710]]. Yn [[1711]] priododd â'i ail wraig, Lowri Lloyd o [[Hafod Lwyfog]] (ger [[Aberglaslyn]]) a symudodd i'r Lasynys eto lle bu fyw am weddill ei oes. Bu farw y 13 Gorffenanf 1734 a'i claddu yn eglwys Llanfair.