Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 67:
Ymddangosodd sialensiau deallusol hefyd. Bu ymosodiadau ar ysbrydoliaeth ddwyfol a dilysrwydd cyffredinol y [[Beibl]] o gyfeiriad cyfandir Ewrop, a theimlid bod darganfyddiadau ym myd gwyddoniaeth yn tanseilio rhai o gysyniadau sylfaenol Cristnogaeth ynglŷn â Duw fel Creawdwr, effeithiolrwydd gweddi, y gwyrthiau a’r [[Atgyfodiad]].
 
[[Delwedd:Capel a Ty Capel Ebenezer, Rhosmeirch 963462.jpg|250px|bawd|Capel a thŷ capel Ebenezer, [[Rhosmeirch]]]]
 
Nid o’r tu allan y daeth pob bygythiad i’r Annibynwyr yn y cyfnod hwn, er bod y bygythiadau oedd yn gosod gwarchae yn fwy amlwg ar y pryd. Trwy gyfuniad o dueddiadau oes Fictoria ac ymwybyddiaeth o’u statws a’u dylanwad yn y gymdeithas, parchusodd ymddygiad ac ymarweddiad yr Annibynwyr. Yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng ‘capelwyr’ a gweddill y gymdeithas, cododd gwahaniaethau cymdeithasol rhwng gweinidogion a’u cynulleidfaoedd. Yn yr un modd, adeiladwyd capeli moethus a rhoddwyd mwy o bwyslais ar allanolion. Ymhen amser, byddai’r diwylliant capelyddol hwn yn troi’n rhwystr i’r egwyddorion sylfaenol a arddelwyd gan y cenedlaethau oedd wedi gosod y sylfaen i Annibyniaeth yng Nghymru.