Craig Rhiwarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ha
Llinell 3:
[[Delwedd:Craig Rhiwarth.jpg|250px|bawd|Craig Rhiwarth]]
 
Bryngaer 16.2 [[ha]] (40 acer) ym [[Maldwyn]], [[Powys]], yw '''Craig Rhiwarth'''. Tu ôl i'r gaer mae'r clogwyni'n codi 500 troedfedd tra bod llethr serth yn disgyn 1200 troedfedd i bentref Llangynog islaw. Mae'n gorwedd y tu ôl i bentref [[Llangynog (Powys)|Llangynog]], ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n rhan o gadwyn [[Y Berwyn]]. Rhed [[Afon Tanat]] wrth droed y graig. Mae'n safle naturiol cryf iawn gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tanat islaw.
 
I'r gogledd mae hen fur adfeiliedig iawn yn dilyn rhediad naturiol y tir i fwlch tua 1500 troedfedd i fyny. Ymddengys fod yr unig fynedfa yn defnyddio hollt naturiol yn y graig ar yr ochr orllewinol. Mae wyneb y safle'n anwastad iawn, a cheir olion [[Cytiau Gwyddelod|cytiau crwn]] yma ac acw yng nghanol y gaer, yn wynebu'r de. Ceid felly digon o le i gadw anifeiliad ac ymddengys fod y gaer wedi'i chodi fel amddiffynfa i gadw'r preiddiau'n ddiogel pan fyddai rhaid yn hytrach na fel trigfan barhaol (ni fyddai'n addas i fyw ynddo yn y gaeaf).