Crannog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 16:
 
==Must Farm, Dwyrain Anglia==
Yn Ionawr 2016 datgelodd [[archaeoleg]]wyr o [[Prifysgol Caergrawnt|Brifysgol Caergrawnt]] eu bod wedi darganfod olion cranogau mewn cyflwr arbennig o dda yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]] mewn man a elwir yn 'Must Farm Quarry' yn y gwlybdiroedd a elwir yn [[y Ffendiroedd]] (Saesneg: ''fenland'' (neu ''fens''), sef math o gors. Mae'r olion hyn wedi'u dyddio i 3,000 o flynyddoedd yn ôl h.y. i'r Oes Efydd (1200-800 CC), ac yn cynnwys cartref, a fyddai wedi cynnwys sawl teulu, ar stilts pren uwch ben y dŵr.<ref>[https://www.cam.ac.uk/research/news/bronze-age-stilt-houses-unearthed-in-east-anglian-fens#sthash.op9HKzA9.dpuf Gwefan Prifysgol Caergrawnt;] adalwyd Ionawr 2016</ref>
 
Llosgwyd yr adeilad gwreiddiol yn ulw gan dân mawr a achosodd i'r adeilad ddisgyn i'r llyn, neu afon, a chadwyd y pren dros y blynyddoedd yn y mwd, heb iddynt bydru. Cafwyd hyd i decstiliau a wnaed o ffibr planhigion, cwpanau bychan, prin, bowleni a jariau cyfan gyda bwyd ynddynt. Cafwyd hefyd mwclis o wydr, sy'n dangos fod gan y gymuned Geltaidd hon sgiliau soffistigedig, uwch nag a geir fel arfer yn y cyfnod hwn. Yn ôl yr archaeolegwyr, mae'r crannog hwn mewn cyflwr gwell nag unrhyw un arall ym Mhrydain.