Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 348:
::Nid yn amal mae Dafydd Tomos a finna'n anghytuno a'n gilydd (erioed, i mi gofio!), ond mae na dro cynta i bopeth! Rwyt ti wedi cyfieithu'r erthygl Saesneg ar y ''[[en:Frigatebird|Frigatebird]]'', ac yno mae'r anghysondeb, nid ar yr enw Cymraeg! ''Frigatebirds'' ddylai teitl yr erthygl fod yn Saesneg gan mai erthygl ar y '''teulu''' o adar yw hon ac nid ar unrhyw <u>un</u> [[rhywogaeth]]. Mae'r rhywogaethau wedi'u rhestru yn yr erthygl, gydag [[Aderyn ffrigad gwych]] yn enghraifft o rywogaeth, a hwnnw sy'n cael ei roi yn y wybodlen yn enghraifft o un o'r teulu. Yr ail faen tramgwydd efallai yw mai un genws sydd yn y teulu Adar ffrigad / ''Fregatidae'', ac felly nid oes angen erthygl ar y genws, dim ond ailgyfeiriad i'r erthygl hon.
::Mae'r categori [[:Categori:Teuluoedd o adar]] yn un cynhwysfawr, gyda dwy ran iddi. Yn y rhan ucha mae isgategoriau - mewn Lladin - ac yn y rhan isa mae erthyglau yn y categori "Teuluoedd o adar" - dyma lle mae hon yn perthyn. Fel y gweli, mae enwau'r teuluoedd hyn yn Gymraeg (nid Lladin) ac yn y lluosog. Y categori ddylai fod ar dy erthygl newydd di yw 'Categori:Teuluoedd o adar' ac nid ''Fregatidae'' (eto, mae'r Saesneg yn anghywir!), er y gellir dadlau fod angen ''Fregatidae'' gan fod yr erthygl (i raddau) hefyd yn son am y genws.
:: Mi wneith {{Ping|Cell Danwydd|DuncanBrownDuncan Brown}} fy nghywiro os dw i'n anghywir, dw i'n siwr. Ond yn bennaf - diolch am erthygl dda! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 06:02, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)