Rhisga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
+en:
Eldegales (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
 
Mae '''Rhisga''' (''Risca'' yn [[Saesneg]]) yn dref ger [[Cwmbrân]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]], ym mwrdeistref sirol [[Caerffili (sir)|Caerffili]].
 
Saif ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddehcrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd/362m) a [[Twmbarlwm|Thwmbarlwm]] i'r dwyrain (1,375 troedfedd/419m).
 
Mae côr dynion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a dros y mynyddoedd. Lleolir amguedffa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.
 
Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r [[Siartwyr]], cyn iddynt orymdeithio i [[Casnewydd|Gasnewydd]].
 
 
{{Stwbyn}}