Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llaneilian-yn-Rhos"

Ychwanegwyd 57 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
use Commons image
B
(use Commons image)
[[Pentref]] bychan ynm [[Conwy (sir)|Mwrdeisdref Sirol Conwy]] yw '''Llaneilian-yn-Rhos''' (ceir yr amrywiad ''Llaneilan-yn-Rhos'' weithiau, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg) {{gbmapping|SH863764}}. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger arfordir [[Gogledd Cymru]], tua milltir a hanner i'r de o [[Hen Golwyn]]. Ceir golygfeydd braf o ben y lôn gul sy'n dringo o Hen Golwyn dros ardal [[Bae Colwyn]] a'r môr.
 
Ceir sawl hen fwthyn yn y pentref sy'n dyst i'w hanes. Fe'i gelwir yn Llaneilian''yn-Rhos'' am ei bod yn gorwedd yn hen [[cantref|gantref]] [[Rhos]], a fu hefyd yn un o [[Teyrnasoedd Cymru|deyrnasoedd cynnar Cymru]], er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a phlwyf [[Llaneilian]] arall, ym Môn.
 
== Ffynnon Eilian ==
[[Delwedd:Llaneilian1Llanelian yn Rhos church - geograph.org.uk - 154993.jpg|250px|bawd|Eglwys Llaneilian-yn-Rhos: mynedfa]]
Bu Llaneilian yn enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian, sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Fel y plwyf ei hun, fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Eilian]], un o gyfoeswyr Sant [[Seiriol]], yn ôl traddodiad. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan [[swyn]] i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon.
 
303

golygiad