Anadlu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Trwsio cyfs
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Anadlu''' (neu mewn [[bioleg]]: '''resbiradu''') ydy'r broses sy'n tynnu aer i fewn ag allan o'r [[ysgyfaint]].<ref>{{cite book |title=Biology |authors=Peter Raven, George Johnson, Kenneth Mason, Jonathan Losos, Susan Singer |publisher= McGraw-Hill Science/Engineering/Math; |edition=8 |year=2007 |isbn=0-07-322739-0 |chapter=''The capture of oxygen: Respiration''}}</ref> Mae organebau fel [[mamal]]iaid, [[adar]] ac [[ymlusgiaid]] yn tynnu [[ocsigen]] i'w cyrff a gelwir y broses hon yn [[resbiradu erobig]]. Dyma un o'r prosesau sy'n gwneud y gwaith hwn ond ceir eraill gan gynnwys proses sy'n ymwneud â [[cylchrediad y gwaed|chylchrediad y gwaed]].<ref>{{cite book |title=Anatomy & Physiology |authors=Kevin T. Patton, Gary A. Thibodeau | publisher= Mosby |edition=7 |year=2009 |isbn=0-323-05532-X}}</ref> Defnyddir yr ocsigen ar ffurf metabolig i greu [[moleciwl]]au sy'n gyfoethog mewn ynni e.e. [[glwcos]]. Mae anadlu hefyd yn cael gwared â [[carbon deuocsid|charbon deuocsid]] allan o'r corff.
 
Mae'r system anadlu yn cynnwys nifer o organau yn y [[thoracs]]. Mae aer yn cael ei dynnu i fewn i'r [[ysgyfaint]] drwy y [[tracea]] neu'r piben wynt. Bydd y tracea yn cael ei rhannu i fewn i ddwy diwb tebyg eraill a gelwir yn [[Broncws|bronci]]. Mae rhain yn arwain i'r ysgyfaint. Tu fewn i'r ysgyfaint bydd yn cael ei rhannu i mwy o bibellau llai sef bronciolynnau. Ar diwedd pob bronciol bydd sach aer neu alfeolws. Yn yr alfeolws bydd [[ocsigen]] yn symud i fewn i'r gwaed ac mae [[carbon deuocsid]] yn cael ei ysgarthu. Gelwir hyn yn gyfnewid nwyon.
 
Ceir cyfnewid nwyon (ocsigen a charbon deuocsid) oddi fewn i'r [[alfeoli]]. Mae'r nwyon yn ymdoddi i'r gwaed sydd yng nghapilarïau'r ysgyfaint ac mae'r [[calon|galon]] yn eu pwmpio o amgylch y corff. Yr enw meddygol am anadlu naturiol ydy "eupnea" neu "anadlu rhwydd"<ref>[Geiriadur yr Academi; tudalen E:481.]</ref>