Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Elfen gemegol"

Ychwanegwyd 236 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Manion using AWB)
 
Elfennau yw blociau adeiladu pob sylwedd. Sylwedd na ellir ei dorri i lawr na'i newid yn sylweddau symlach trwy unrhyw ddull cemegol yw '''elfen gemegol'''. Mae elfen wedi ei hadeiladu o [[atom]]au unigol, ac ym mhob elfen mae gan bob atom yr un nifer o [[proton]]au. Yn aml fe ddisgrifir elfen fel sylwedd lle mae bob atom yr un fath, ond nid yw hyn yn hollol gywir gan y gall fod [[isotop]]au ganddo. Mae elfennau yn cynnwys un math o atom yn unig. Mae llawer iawn o sylweddau a welwn o ddydd i ddydd yn elfennau e.e. [[alwminiwm]], [[copr]], [[haearn]] neu [[ocsigen]]. Mae elfennau wedi eu gwneud o ronynnau bychain, sef atomau. Dim ond un math o atom sydd mewn elfen.
 
== Diffiniadau o elfen ==
 
== Enwau a symbolau'r elfennau ==
Mae elfennau wedi eu trefnu yn y Tabl Cyfnodol. Mae pob elfen yn cael ei ddangos gyda symbol. Mae rhai elfennau wedi eu hadnabod am oes hir ac mae eu henwau felly wedi eu tarddu blynyddoedd hir yn ôl. Esiamplau o'r elfennau adnabuwyd yn gynnar yw [[copr]], [[aur]] ac [[arian (elfen)|arian]]. Dros y canrifoedd diwethaf, llwyddodd cemegwyr i arunigo llawer o elfennau ychwanegol, ac fel arfer rhoddir enw i'r elfen gan y cemegydd gwnaeth ei harunigo a'i hadnabod yn elfen. Rhaid i'r enw a'i sillafu cael eu cytuno gan IUPAC (''International Union of Pure and Applied Chemistry''). Dewisir enw'r elfen am nifer o resymau, yn cynnwys priodweddau'r elfen, tarddiad y sampl sy'n cynnwys yr elfen, rhesymau gwlatgar neu ar ôl gwyddonwyr enwog:
* [[Clorin]], ar ôl lliw gwyrdd y nwy.
* [[Ytriwm]], [[Terbiwm]], [[Yterbiwm]] ar ôl Yterby, lle ddarganfuwyd y mwyn cyntaf oed yn cynnwys yr elfennau.
445

golygiad