Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell Odo"

Ychwanegwyd 26 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
use Commons image
(use Commons image)
[[Delwedd:Castell Odo 609772.jpg|300px|bawd|Castell Odo]]
 
[[Bryngaer]] sy'n dyddio o ddechrau [[Oes yr Haearn]] ac a leolir gerllaw [[Aberdaron]], [[Gwynedd]], yw '''Castell Odo''' ({{gbmapping|SH187285}}). Mae'n gorwedd ger y ffordd B4413, rhyw filltir a hanner o'r pentref.
 
Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi. Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd [[Oes yr Efydd]], felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.
303

golygiad