Castell Dinbod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1:
[[Delwedd:Castell Tinboeth 659389.jpg|250px|bawd|Castell Tinboeth]]
 
[[Castell]] [[Normaniaid|Normanaidd]] rhwng [[Y Drenewydd]] a [[Llandrindod]] ym [[Powys|Mhowys]] yw '''Castell Tinboeth''' ({{gbmapping|SO090754}}). Saif ar lan [[Afon Ieithon]] tua milltir i'r gogledd o [[eglwys]] hynafol [[Llananno]], ar fryn i'r dwyrain o lôn yr [[A483]].
 
Codwyd y castell oddi mewn i [[Bryngaer|fryngaer]] gron o [[Oes yr Haearn]]. Mae ganddo wrthglawdd o bridd a cherrig a mynedfa i'r de-ddwyrain. Defnyddid rhai o gerrig y fryngaer ar gyfer adeiladu clawdd o amgylch y castell. Mae'n enghraifft ddiweddar iawn o'r [[castell mwnt a beili]] traddodiadol. Addaswyd muriau'r fryngaer i lunio'r ward allanol (y beili). Diogelid y mwnt â [[llenfur]] o gerrif gyda phorthdy mawr yn y gornel gogledd-orllewinol trwy gatws oedd tua 8 medr sgwâr. Dim ond pentyrrau o gerrig sy'n aros o'r muriau heddiw.