Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bwthyn Llywelyn"

Ychwanegwyd 9 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
use Commons image
B
(use Commons image)
[[Delwedd:Cefn Bwthyn Llywelyn, Beddgelert446370.jpg|300px|bawd|Bwthyn Llywelyn o'r cefn]]
Tŷ hynaf [[Beddgelert]], [[Gwynedd]] yw '''Bwthyn Llywelyn''' neu '''Tŷ Isaf''' fel y'i gelwir heddiw ({{gbmapping|SH590480}}). Mae'n eiddo i'r [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]] ac yn cael ei ddefnyddio ganddynt fel canolfan.
 
Cafodd yr enw 'Bwthyn Llywelyn' am fod traddodiad yn ei gysylltu â [[Llywelyn Fawr]], [[Teyrnas Gwynedd|Tywysog Gwynedd]] a [[Tywysog Cymru|Chymru]] yn hanner cyntaf y 13eg ganrif. Yn ôl y traddodiad lleol, roedd gan y tywysog neuadd ar y safle a ddefnyddiai pan ddeuai i hela yn yr ardal. Ni ellir profi'r hanes, ond roedd brenhinoedd a thywysogion Gwynedd yn arfer mynd [[Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd|"ar gylch" o lys i lys]] yng Ngwynedd gan aros fel rheol mewn adeiladau pwrpasol; byddai hynny'n cynnwys neuaddau syml fel, efallai, 'Bwthyn Llywelyn'. Ond mae'n bosibl hefyd nad yw'r "traddodiad" yn hŷn na chyfnod perchennog tafarn y ''Goat'' a ddyfeisiodd [[chwedl Gelert]] (tua 1800).
303

golygiad